Jane Ashman Logo

Signs and Indicators – 9. Dechrau sgyrsiau

Sut i ddechrau sgyrsiau pan mae gennych bryder ynghylch plentyn neu oedolyn

Gall deimlo’n anodd iawn i ddechrau sgwrs gyda, neu am rhywun, y mae gennych bryder amdanynt, ond dywed goroeswyr wrthym eu bod eisiau i bobl ofyn iddynt os oes rhywbeth yn eu poeni. Mae gofyn y math yna o gwestiynau yn creu cyfle i ddioddefwr i ddatgelu yn hytrach na phoeni ynghylch sut i ddechrau sgwrsio am bwnc trafod mor anodd.

Trawsgrifiad Fideo

Mae goroeswyr wedi dweud wrthym eu bod am i bobl ofyn iddynt. Nid ydynt yn gwybod sut i ddechrau sgwrs gydag unigolyn. Sut ydych chi’n codi’r pwnc eich bod yn cael eich cam-drin? Oes gennych chi’r geiriau, y derminoleg i ddisgrifio beth sy’n digwydd i chi? Hefyd, mewn ysgolion yn gyffredinol, maent yn amgylcheddau prysur, felly eto nid yw’n rhywbeth sy’n dod i fyny’n hawdd. Felly beth maent yn ei ofyn i ni yw eu bod am i ni ddechrau’r sgwrs honno. Ac eto, rydym yn meddwl, sut ydyn ni’n dechrau’r math yna o sgwrs? Mae mor syml ag y gwelwch chi yn yr ardaloedd gwyrdd ar eich sgrîn.

Trwy ddatgan eich bod wedi sylwi ar rhywbeth, felly’r arwyddion a’r dangosyddion yr edrychom arnynt yn y modiwl hwnnw, rydych yn meddwl yn y fan yna am “beth ydw i wedi sylwi arno?” “Rwyf wedi sylwi nad ydynt fel nhw eu hunain. Rwyf wedi sylwi eu bod yn ddistaw. Rwyf wedi sylwi ar newid yn eu hymddygiad. Rwyf wedi sylwi nad ydynt yng nghwmni eu ffrindiau arferol.” “Rwyf wedi sylwi bod safon eu gwaith wedi gostwng. Rwyf wedi sylwi eu bod (os yn gydweithiwr) yn aros yn y gwaith yn hirach na’r arfer. Rwyf wedi sylwi bod eu hymddangosiad yn llawer blerach na’r arfer.”

Unrhyw beth rydym wedi sylwi arno er mwyn i ni ddechrau’r sgwrs, i roi’r cyfle iddynt. Felly rydym yn dechrau gyda’r rhai yn y gwyrdd yn y fan yna. “Rwyf wedi sylwi nad wyt ti fel ti dy hun ar hyn o bryd”, “Rwyf wedi sylwi arnat ti’n crio”, “Rwy’n sylwi dy fod yn ddistaw iawn ar hyn o bryd.” A gweld pa ymateb ddaw yn ôl. Does dim beirniadaeth yn y fan yna, does dim yn dweud beth yw eich barn chi, does dim yn dweud “Dwi’n poeni amdanat ti. Oes rhywbeth o’i le? Beth sy’n digwydd? Tyrd, dweud wrthai.”

Dim ond datganiad syml. Os na ddaw unrhyw beth o’r datganiad, yna gallwch symud ymlaen i’r ardaloedd piws yn y canol. Neu gallwch eu cyfuno. “Rwyf wedi sylwi nad wyt ti fel ti dy hun ar hyn o bryd, helpa mi i ddeall” neu “Elli di ddweud mwy wrthyf am hynny?” Mae’n dibynnu gyda phwy rydych chi’n siarad o ran yr ieithwedd i ddefnyddio. Petai’n gydweithiwr byddai’n wahanol i blentyn, ac eto yn dibynnu ar oed y plentyn yna. “Rwyf wedi sylw ar X ac fe hoffwn ddeall mwy am hynny.” Eto, rhoi’r cyfle iddyn nhw. Os nad ydynt yn barod yn y foment hon does dim pwynt ceisio eu gorfodi. Byddant yn eich parchu lawer mwy, oherwydd pan mae rhywun yn cael eu cam-drin, boed yn blentyn neu’n oedolyn, beth sydd wedi digwydd yw fod y pŵer a’r rheolaeth wedi cael eu cymryd ganddynt.

Felly os ceisiwn eu gorfodi ar yr adeg yma, er ein bod yn poeni go iawn, ac yn gwneud hyn o garedigrwydd, os byddwn yn eu gorfodi nid ydym ddim gwell na’r camdriniwr. Rydym yn gwneud yn union yr un peth, rydym yn cymryd y rheolaeth a’r pŵer oddi-wrthynt. Felly eto, os nad ydynt (yn ymateb), sicrhewch eu bod yn gwybod eich bod ar gael. Ac, eto, gwiriwch gyda hwy mewn diwrnod neu ddau i ddweud, “Nid wyt ti’n dal i fod fel ti dy hun, helpa fi i ddeall.”

Y rhai yn y glas, mae yna ddau yma, dyma ble mae plant yn ei chael yn anodd iawn weithiau ac yn meddwl, “Syt ydw i’n geirio pethau?” Felly’r cyntaf yw ceisio rhoi’r cyfle iddynt mewn gwirionedd, “Weithiau mae pethau’n digwydd y mae plant yn ei chael yn anodd iawn i siarad amdanynt.”

Mae rhoi hyn allan yn y fan yna yn gallu eu helpu go iawn. Maent yn meddwl, “Yndi, mae o, dydw i ddim yn gwybod sut i’w ddisgrifio. Dydw i ddim yn gwybod beth i’w wneud.” Ac mae dim ond ei gydnabod yn gallu dod â rhyddhad iddynt ac iddynt feddwl, “Ydi, mae hyn yn normal.” Oherwydd byddant yn meddwl mai nhw yw’r unig un sy’n profi hyn, nid yw hyn wedi digwydd i neb arall, fod y ffordd maent yn ymateb ddim yn normal. Ond mae dim ond dweud hyn yn help.

Yr un arall bob amser yw beth i’w wneud, beth fydd yn digwydd, beth fydd y canlyniadau os rydych yn dweud wrth unrhyw un. Felly, yr ail un, “Weithiau rydym yn poeni am beth allai ddigwydd os ddywedwn ni wrth rhywun beth sy’n digwydd (e.e. mae rhywun wedi dweud y byddant mewn trwbwl / i’w gadw’n gyfrinach / y byddwn yn siomi pobl).” Gallwch chi, trwy ddweud wrthynt, “Fedri di ddweud wrthyf beth rwyt ti’n poeni fyddai’n digwydd os wnei di ddweud wrth rhywun beth sy’n mynd ymlaen?” wedyn gallwn ddatbwytho’r rhwystrau a’r pryderon hynny. Nid ydym yn dweud wrthynt i ddweud wrthym beth sy’n digwydd. Nid ydym yn swnian arnynt ac yn eu gwthio. Rydym yn gofyn iddynt, “Am beth wyt ti’n poeni?” Ac wedyn gweld os allwn ni esmwytho’r ofnau hyn neu beidio. Ac efallai y bydd dim ond cydnabod yr ofn hwnnw’n help i’r plenyn neu’r oedolyn hwnnw i fod eisiau datgelu i ni.

Template File: single.php