Grooming – 2. Stori Paul
Fideo Trawsgrifiad
Doeddwn i erioed yn arfer cynnwys meithrin perthynas amhriodol ar fy nghyrsiau, roeddwn i wastad yn cymryd bod pawb yn gwybod beth oedd meithrin perthynas amhriodol, a dwi’n meddwl fy mod wedi gwneud camgymeriad mawr. Sylweddolais hyn pan fynychais sesiwn gyda gŵr o’r enw Paul Stewart. I’r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod pwy yw Paul Stewart, roedd Paul Stewart yn chwaraewr pêl-droed yn y gynghrair uchaf fu’n chwarae i Man City, Lerpwl a Tottenham Hotspur. A chyda Tottenham Hotspur fe enillodd y Gwpan FA. Cafodd hefyd dri cap llawn i Loegr.
Ac roeddwn yn ddigon ffodus, er fy mod wedi mynychu rhai sesiynau ar-lein, i fynychu sesiwn yn bersonol yng Nghaeredin, mewn cynhadledd rhyngwladol yno. Ac yn y sesiwn yma, mewn gwirionedd, y cawsom siarad mwy am yr hyn yr oedd wedi ei ddweud, ac fe ranaf y dyfyniad gyda chi mewn eiliad. Ond yn y sesiwn yna fe agorodd i fyny ynghylch mai ei hyfforddwr oedd wedi ei gam-drin, oherwydd mae Paul hefyd yn oroeswr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod. A’i hyfforddwr oedd wedi ei gam-drin, ac nid yn unig yr oedd wedi meithrin perthynas amhriodol gyda Paul, roedd wedi meithrin perthynas amhriodol gyda’i deulu i gyd hefyd. Beth ddywedodd Paul oedd fod ei set cyntaf o esgidiau pêl-droed, gan ei fod wastad wedi cael hen rai gan weddill y teulu, oherwydd ei fod yn un o dri o fechgyn felly wastad wedi eu cael nhw gan y lleill, wedi dod gan ei hyfforddwr. Roedd y teledu cyntaf oedd gan y teulu wedi dod gan yr hyfforddwr.
Ac, fel y gwelwch chi o’r dyfyniad sydd ar eich sgrîn, dyna beth wnaeth i mi ddechrau meddwl go iawn am gynnwys hyn. Dywed Paul Stewart, “Mae pobl wedi gofyn i mi beth allen nhw fod wedi ei wneud i’n helpu i ddatguddio yn gynt, i fod yn onest, ni allent fod wedi gwneud dim unwaith roedd y cam-drin wedi dechrau. Pe bawn i wedi cael fy addysgu am sut roedd meithrin perthynas amhriodol yn edrych a beth mae’r unigolion yma’n ei wneud i feithrin perthynas amhriodol, efallai wir y byddwn i wedi dweud rhywbeth yn llawer cynharach.”
Felly, nid yw’n addo y byddai wedi gwneud, ond hyd yn oed gyda’r cyfle bach yna mae’n sôn amdano yn y fan yna. Petai wedi gallu ei adnabod. Felly dechreuais feddwl, yn enwedig mewn addysg, mae gennym rôl allweddol ac mae gennym y cyfle i addysgu’r plant. Oherwydd allwn ni ddim eu lapio mewn gwlan cotwm, allwn ni ddim eu hamddiffyn rhag popeth.
Maen nhw’n ein gadael ar ddiwedd y diwrnod ysgol, ac hefyd yn ystod y gwyliau a phenwythnosau, felly mae’n rhaid i ni eu haddysgu a’u huwchsgilio.
Felly, fy nghwestiwn i chi, ac un o’r gweithgareddau i chi i’w wneud, yw, “Sut mae meithrin perthynas amhriodol yn edrych?”
Os byddai’n rhaid i chi ei ddisgrifio i rhywun arall, sut fyddech chi’n gwneud hynny? Fyddai o’n ddisgrifiad gwahanol i aelod staff o’i gymharu â phlentyn? Neu a fyddai’r un peth?
Felly fe adawaf chi gyda’r cwestiwn yna.