Jane Ashman Logo

Transitional and Contextual Safeguarding – 8. Camau Nesaf

Camau Nesaf

Gwyliwch y Ted Ed talk gan Sarah Jayne Blakemore ar weithrediadau rhyfeddol ymennydd yr arddegau

Edrychwch ar yr erthyglau ar wefan yr UK Trauma Council website ynghylch sut y gall trawma effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd

Os nad ydych wedi edrych arno eisoes, edrychwch ar y modiwl Magu Perthynas Amhriodol. Adlewyrchwch ar sut mae eich dealltwriaeth newydd o ddatblygiad yr ymennydd yn rhoi mewnwelediad i chi o fagu perthynas amhriodol.

Edrychwch ar yr adnoddau ar wefan Ysgolion a Chymunedau sy’n Wybodus am Drawma yn y Deyrnas Unedig (‘Trauma Informed Schools and Communities UK / TISCUK’).

Gofynnwch i’r arweinydd bugeiliol ynghylch cynnal ymarfer ‘RAG’. Mae hwn yn mapio ym mhle mae plant yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol. Cofiwch ddefnyddio chwilfrydedd proffesiynol i ddeall rhesymu’r plentyn am eu pryderon.

Edrychwch os yw’n bosibl i weithio gyda’r gymuned leol i greu Gwarcheidwaid Cymunedol.

Sut i adrodd

Mae adrannau 128 ac 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan ei fod yn ddyletswydd i adrodd ar oedolyn sydd mewn risg neu blentyn sydd mewn risg.

Fel aelod staff sy’n gweithio mewn addysg, mae’r ddyletswydd gyfreithiol hon yn berthnasol i ni ac mae’n rhaid i ni adrodd ar unrhyw bryderon sydd gennym am oedolion a phlant.  O fewn ysgolion, golygai hyn gofnodi eich pryderon a’u pasio ymlaen i’r Person Diogelu Dynodedig (PDD).

Mae’n bwysig iawn ein bod yn cofnodi unrhyw bryderon sydd gennym, ac wedyn bydd y PDD yn gallu adeiladu llun llawnach o’r sefyllfa.

Beth sydd ei angen i chi ei wneud

Pasiwch eich holl bryderon ymlaen i’r PDD trwy ddefnyddio system adrodd eich ysgol. Gallai hon fod yn system electronig (My Concern, CPOMs, Bromcom) neu’n system bapur (ffurflen adrodd diogelu neu dempled).

Mae’n rhaid i chi gynnwys gwybodaeth ar yr hyn rydych wedi ei weld neu a ddwedwyd wrthych. Cofiwch ddefnyddio’r union eiriau a ddefnyddiwyd gan y person oedd yn adrodd. Mae’n hanfodol mai’r brif ffynhonnell sy’n cofnodi’r wybodaeth. Golygai hyn y person sydd wedi ei weld neu’r person a dderbyniodd y datgeliad.

Trwy ddarparu’r wybodaeth yma i’r PDD, byddwch yn eu helpu i ddeall cyd-destun yr hyn ddigwyddodd. Gallent hefyd ychwanegu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt eisoes ynghylch pryderon am y disgybl yna.

Llinellau Cymorth

Childline: 0800 1111

Cefnogaeth 24 awr ar gyfer pobl ifanc, ar y ffôn a thrwy sgyrsiau ar-lein a byrddau negeseuo

The Mix: 0808 808 4994

Gwybodaeth a chefnogaeth i rai dan 25 oed

Meic: 080880 23456, Testun 84001

Gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru

8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, gydag opsiynau sgwrsio ar-lein hefyd ar gael

Galop: 0800 999 5428, help@galop.org.uk

I gefnogi pobl LGBT+

Samaritans: 116 123

Cefnogaeth ar gael 24/7 ffoniwch am ddim, e-bostiwch jo@samaritans.org neu ddefnyddio’r sgwrs ar-lein

NSPCC: 0808 800 5000

NAPAC: 0808 801 0331

National Association for People Abused in Childhood

Dydd Llun i Ddydd Iau: 10am – 9pm, Dydd Gwener: 10am – 6pm, Dydd Sadwrn a Dydd Sul – Ar Gau

Template File: single.php