Transitional and Contextual Safeguarding – 7. Casglu llais y plentyn ar gyfer ble maent yn teimlo’n ddiogel
Trawsgrifiadau fideo
Pan rydych chi’n edrych ar ardaloedd ble nad yw plant yn teimlo’n ddiogel, boed hynny yn yr ysgol neu ar y ffordd i’r ysgol, mae’n bwysig iawn ein bod yn defnyddio’r egwyddor o chwilfrydedd proffesiynol, ble rydym yn gofyn cwestiynau fel, “Pam mae’r ardal yna’n achosi pryder iddyn nhw?”, “Beth sy’n digwydd yn yr ardal yna?”
Ac, weithiau, gallwn fod yn euog, fel staff, o neidio i mewn, gan feddwl, “Ydan, rydan ni’n gwybod beth ydyw, oherwydd maent wedi sôn am y toiledau.” Ac rydych yn meddwl yn ôl i’ch amser chi yn yr ysgol ac yn meddwl, “Ydw, dwi’n cofio’r toiledau, nid yw’n ardal ble buaswn i eisiau mynd, yn enwedig yn ystod amser egwyl.” “Mae’n brysur iawn, pawb yn fepio efallai, yn smocio yno. Nid yw’n ardal yr hoffech fod ynddi.”
Cefais ysgol yn sôn am hyn i mi, ac yn dweud, “Ia, toiledau, yn sicr yn un o’r ardaloedd pan roeddem yn mapio’r ysgol”, ac yn edrych ar ble roeddent yn meddwl roedd yr ardaloedd gwyrdd, yr ardaloedd oren, ardaloedd coch, ac fe soniwyd am y toiledau’n sicr. Ac rwy’n cofio gofyn iddynt, “Beth ydyw ynghylch y toiledau?”, oherwydd roeddwn yn gwybod bod y toiledau yn yr ysgol honno’n giwbiclau unigol, wedi eu gosod o gwmpas yr ysgol, y gallai unrhyw un eu defnyddio. Ac yno roedd toiled, basn golchi dwylo, a’r sychwr dwylo.
Felly, nid oedd unrhyw grwpiau o ddisgyblion, nid oedd unrhyw gyfle i grwpiau i fod i mewn yno, felly beth oedd y rheswm? A’r hyn ddaeth ar draws yn y diwedd oedd bod digwyddiad ble’r oedd un person wedi cael eu cloi i mewn, roedd y clo wedi torri, a dyna beth oedd yn gwneud iddynt deimlo’n anniogel yno. Ac, felly, pan roeddent yn mynd yno roeddent yn eu gadael wedi eu datgloi ac yn gadael ffrindiau y tu allan i’r drws i wneud yn siŵr bod neb arall yn dod i mewn. Ond dyma beth oedd yn achosi’r pryder.
Eto, os oes pethau felly, a phan rydych yn edrych i mewn ymhellach ei fod yn rhywbeth, os gwelwch yn dda gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd yn ôl ac yn adrodd i’r disgyblion. Felly, os ydynt wedi adrodd bod rhywbeth wedi torri, neu bod rhywbeth yn eu poeni, ei gynnwys mewn gwasanaeth, rhoi neges allan i’r grwpiau dyletswydd. Dweud, “roeddem wedi sylwi eich bod wedi dweud bod y toiledau yn ardal ble nad oeddech yn teimlo’n ddiogel oherwydd y cloeau. Rydym wedi edrych ar y cloeau yn y toiledau ac maent yn gweithio rŵan.” “Byddwn yn eu gwirio’n rheolaidd. Adroddwch i ni os gwelwch yn dda.” Y math yna o beth, oherwydd, eto, mae’r math yna o ddiwylliant, mae nhw’n gwybod ein bod yn gwrando arnynt ac yn gweithredu, felly mae’n llawer gwell.
Weithiau, efallai na fyddwn yn ei weld ac yn meddwl amdano yn y ffordd yna. Roedd un ysgol oedd yn sicr mai’r coridor Saesneg oedd yn achosi’r problemau. Ac aeth y staff yno i weld, ac roedd y coridor Saesneg yn goridor llydan, ac roeddent yn meddwl, “beth ydyw?”
Nid oedd yr ymddygiad yn afreolus, doedd dim gwthio yn y coridorau, doedd dim mannau gor-brysur fel sydd mewn rhai ysgolion ble mae pawb yn mynd i lawr un grisiau ac fe all fod ychydig yn flêr ar adegau ac maent yn poeni am syrthio i lawr y grisiau. Eto, nid oeddent yn gallu ei weithio allan. Roeddent yn eu gwylio rhwng gwersi.
Felly gwnaethant siarad gyda’r disgyblion, a darganfod mai’r genethod oedd yn fwyaf pryderus am y coridor Saesneg na’r bechgyn. Ac wrth edrych ymhellach i mewn i hyn, y peth oedd y balwstrad gwydr i lawr y grisiau. Ac, beth oedd yn eu poeni, oedd bod pobl yn edrych i fyny eu sgertiau. Felly, roeddent wedi rhoi ffilm myglyd dros y gwydr, fel na allai pobl edrych i fyny.
Ond fe greodd broblem arall sef, erbyn hyn, bod pobl yn ei bigo i ffwrdd, ond roeddent wedi delio gyda’r broblem oedd yn eu poeni, pam eu bod yn teimlo’n anniogel. Felly, eto, gellir crybwyll hynny.
Un o’r ardaloedd mae angen i ysgolion edrych arnynt yw Gwarchodwyr Cymunedol. Oherwydd pan rwy’n siarad gyda disgyblion, beth maent yn ei ddweud wrthyf yw eu bod, yn gyffredinol, yn teimlo’n anniogel wrth ddod i’r ysgol o’i gymharu ag yn yr ysgol. Felly, mae yna nifer o resymau am hynny.
Ond beth allwn ni geisio ei wneud yw, gallwn greu ardaloedd diogel ar eu taith i mewn i’r ysgol. Gweithio gyda siopau lleol yw hyn, siarad gyda nhw a dweud, “Os yw un o’n disgyblion yn dod i mewn, allwn ni roi sticer i fyny yn eich ffenestr, sy’n dangos eich bod yn un o’n Gwarchodwyr Cymunedol os gwelwch yn dda?”
“Ac, felly, os oes rhywun yn teimlo’n anniogel ar eu ffordd adref gallent ddod i mewn yma a naill ai ffonio’r ysgol neu gallent ffonio eu rhieni.” Efallai y byddant yn aros yma am ddeng munud, oherwydd rydan ni i gyd yn gwybod beth fyddai’n digwydd. Plentyn yn cerdded i mewn i siop, yno am 10-15 munud. Yn syth, mae’r siop yn dechrau meddwl, “Ydyn nhw yma i ddwyn?”
Ac mae’r plentyn yn teimlo’n hunanymwybodol o hynny. Felly mae gennym bobl yn ein cymunedau sydd wedi’u hyfforddi, yn gweithio gyda siopau lleol, arwyddion yn y siopau sy’n dweud eu bod yn Warchodwyr Cymunedol a’i bod yn iawn i ddisgyblion i fynd i mewn os ydynt yn teimlo’n anniogel ac i siarad gydag aelod staff. Mae’n debyg i’r cynllun ‘Ask Angela’ sydd gennych mewn bariau ble, os ydych chi’n teimlo’n anghyfforddus, ewch i ofyn am Angela.
Mae’r un syniad gyda Gwarchodwyr Cymunedol ac, eto, os allwn ni roi’r rhain ar y ffordd i mewn i’r ysgol, ble gall ein disgyblion fynd a gwybod eu bod yn ddiogel, yna mae honno’n ffordd wych ymlaen. Ond edrychwch ar yr hyn mae eich disgyblion wedi ei ddweud pan rydych wedi siarad gyda nhw a gweld os allwch chi roi cynllun gweithredu at ei gilydd ar gyfer yr hyn sy’n achosi pryder iddynt.