Jane Ashman Logo

Transitional and Contextual Safeguarding – 4. Pam bod ots am amseriad y datblygiad?

Pam bod ots am amseriad y datblygiad?

Mae’r amygdala yn orweithgar mewn pobl ifanc yn y glasoed. Mae’n sganio’n barhaus i weld, “Ydw i’n ddiogel?” Mae’n orweithgar oherwydd nad yw’r cortecs rhagflaenol yn camu mewn i’w dawelu – nid yw wedi datblygu digon eto.

Pan mae hyn yn digwydd, mae’r corff yn llifo gyda Cortisol (yr hormon straen). Golygai hyn na all pobl ifanc feddwl yn glir. Efallai y byddant yn gwneud penderfyniadau gwael oherwydd eu bod wedi symud i mewn i’r ymateb ymlusgol. Mae’r hormonau hyn yn lleihau’r mynediad i’r rhan o’r ymennydd sy’n meddwl yn rhesymegol (breithell).

Mae pobl ifanc yn y glasoed hefyd yn cael trafferth darllen sefyllfaoedd ac emosiynau’r wyneb yn gywir. Maent yn aml yn camddehongli’r hyn maent yn ei weld.

Enghraifft

Efallai y bydd aelod o staff ysgol yn rhwystredig gyda disgybl am nad yw eu gwaith i fyny i’w safon arferol. Efallai y bydd y disgybl yn dehongli hyn fel dicter. Efallai y byddant wedyn yn mynd yn amddiffynnol gyda’r ymateb ymladd ac yn dechrau gweiddi ar yr aelod staff.

Mae’r Ysgolion a Chymunedau sy’n Wybodus am Drawma y Deyrnas Unedig (‘Trauma Informed Schools and Communities UK / TISCUK’) yn defnyddio’r acronym ‘WINE’ i ymateb i’r senarios yma.

Rwy’n meddwl, rwy’n dychmygu, rwy’n sylwi, empathi (‘WINE / I wonder, I imagine, I notice, empathy’)

  • Rwy’n meddwl os yw… (e.e. roedd yn teimlo fel nad oedd neb yn eich deall)
  • Rwy’n dychmygu….. (e.e. roedd yn ofnadwy pan ddigwyddodd hynny)
  • Rwy’n sylwi….. (e.e. sut roeddech chi’n teimlo’n well pan ddwedoch chi eich bod yn teimlo’n agosach at eich brawd)
  • Empathi
  • Cefais fy nghyffwrdd pan ddwedaist (e.e. am flynyddoedd roeddech yn meddwl mai arnoch chi oedd y bai am y cam-drin. Ond rŵan rydych yn sylweddoli mai dim arnoch chi oedd y bai ac rydych yn teimlo wedi eich rhyddhau o faich ofnadwy)
  • Mae hynny’n swnio’n….. (e.e. poenus oherwydd eich bod ar eich pen eich hun)
  • Dyma fy narlun o’r hyn ddwedaist (dangos y darlun)

Template File: single.php