Jane Ashman Logo

Transitional and Contextual Safeguarding – 3. Datblygiad ymennydd person ifanc yn eu glasoed

Er mwyn deall pwysigrwydd diogelu trosiannol, mae angen i ni edrych yn gyntaf ar sut mae’r ymennydd yn datblygu. Mae hyn yn ein helpu i ddeall pam mae rhai pobl ifanc mewn mwy o risg o gael eu magu ar gyfer perthynas amhriodol a’u hecsbloetio.

Mae’r ymennydd yn stopio tyfu mewn maint erbyn y glasoed cynnar. Ond, mae’r blynyddoedd arddegau yn ymwneud â’i fireinio. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r ymennydd yn cryfhau llwybrau (myelineiddiad) sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd. Mae hefyd yn tocio llwybrau nad oes eu hangen bellach (tocio synaptig). Nid yw’r ymennydd yn stopio datblygu ac aeddfedu nes rydym yng nghanol ein 20au neu yn ein 20au hwyr. Dyma pam mae diogelu trosiannol a diogelu cyd-destunol mor bwysig.

Mae’r ymennydd wedi ei rannu’n wahanol adrannau. Mae pob adran yn datblygu ar wahanol raddfeydd ac â gwahanol swyddogaethau:

Mae’r Cortecs Rhagflaenol yn eistedd y tu ôl i’r talcen. Hwn yw un o’r rhannau olaf i aeddfedu. Mae’r ardal yma’n gyfrifol am sgiliau megis cynllunio, blaenoriaethu, a gwneud penderfyniadau da. Oherwydd bod y rhan yma’n aeddfedu yn olaf, efallai y bydd rhai yn eu harddegau yn ymddwyn yn fyrbwyll. Maent yn aml yn blaenoriaethu enillion tymor byr dros ganlyniadau tymor hir.

Mae’r System Limbig yn ddwfn o fewn yr ymennydd. Mae’n ymwneud ag emosiynau a rhyngweithiadau cymdeithasol. Mae’n aeddfedu’n gynharach na’r Cortecs Rhagflaenol. Gall hyn arwain i ymatebion emosiynol uwch a ffocws ar berthnasoedd cyfoedion. Mae hyn yn aml yn arwain at ymddygiadau o gymryd risg, oherwydd bod y buddion cymdeithasol yn gorbwyso’r risgiau y gallent eu gweld. Mae’r Amygdala yn rhan o’r System Limbig. Mae’n sganio’n barhaus am fygythiadau posibl ac yn sbarduno ymatebion emosiynol cyflym.

Mae’r Ymennydd Ymlusgol wedi ei leoli yng nghoesyn yr ymennydd. Mae’n gyfrifol am reddfau goroesi sylfaenol. Mae’n rheoli systemau rheoleiddiol megis hormonau, tymheredd y corff, a newyn. Rydym yn aml yn ei gysylltu ag ymatebion ymladd / ffoi / rhewi.

Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn arbennig o sensitif i adborth cymdeithasol. Gall hyn effeithio arnynt wrth wneud penderfyniadau. Gall rhyngweithiadau cymdeithasol positif gynyddu datblygiad yr ymennydd. Gall profiadau negyddol arwain at straen a materion iechyd meddwl.

Oherwydd bod yr ymennydd yn dal i ddatblygu, efallai y bydd pobl ifanc yn eu harddegau’n ymateb i straen yn wahanol i oedolion. Gall hyn gynyddu eu siawns o ddatblygu pryderon iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â straen megis gorbryder ac iselder. Dyma pam ei bod yn bwysig iawn bod rhai yn eu harddegau yn cymryd rhan mewn gweithgareddau positif.

Dengys gwaith ymchwil bod yr hormon cwsg melatonin mewn pobl ifanc yn eu harddegau yn aros yn uwch yn y nos ac yn gostwng yn nes ymlaen yn y bore. Efallai bod hyn yn esbonio pam bod pobl ifanc yn eu harddegau’n aros i fyny’n hwyr ac yn cael trafferth codi’n gynnar. Mae cael digon o gwsg yn helpu pobl ifanc i gadw eu sylw, i reoli ysgogiadau, ac i wneud yn dda yn yr ysgol neu’n y gwaith. Mae hefyd yn cefnogi iechyd meddwl.

Cyn i ni archwilio pam bod ots am yr amseriad hwn mewn datblygiad, cymerwch foment i adlewyrchu ar brofiadau yn yr arddegau:

Template File: single.php