Transitional and Contextual Safeguarding – 2. Beth allwn ni ei wneud?
Fel staff, mae gennym gysylltiad rheolaidd gyda’n disgyblion a’n cydweithwyr. Mae angen i ni gofio, efallai mai aelod o’r staff yw’r person sydd angen cefnogaeth, nid disgybl yn unig. Mae’n rhaid i ni basio unrhyw bryderon ymlaen at y Person Dynodedig Diogelu (PDD).
Gwnewch yn siŵr bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed.
Efallai mai y chi yw’r unig berson maent yn ymddiried ynddynt i’w helpu.
Chwilfrydedd proffesiynol gweithredol
Mae chwilfrydedd proffesiynol yn bwysig iawn. Mae angen i ni wybod yn union beth mae’r unigolyn ei angen a beth fydd yn eu helpu / cefnogi.
Mae nifer o rwystrau sy’n atal pobl rhag gofyn am help neu am ddweud yr hoffent i hynny ddigwydd.