Jane Ashman Logo

Signs and Indicators – 10. Camau Nesaf

Y Camau Nesaf

Os hoffech ddysgu mwy am y maes yma yna cliciwch ar y dolenni i’r blog am fathau o ddatgeliadau.

Nawr bod gennych y sylfaen i adnabod yr arwyddion a’r dangosyddion ac i ddechrau sgyrsiau, dylech symud ymlaen i’r modiwl datgeliadau i gael gwell mewnwelediad o’r hyn i’w wneud.

Os rydych chi’n pryderu

Mae adrannau 128 ac 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan ei fod yn ddyletswydd i adrodd ar oedolyn sydd mewn risg neu blentyn sydd mewn risg.

Fel aelod staff sy’n gweithio mewn addysg, mae’r ddyletswydd gyfreithiol hon yn berthnasol i ni ac mae’n rhaid i ni adrodd ar unrhyw bryderon sydd gennym am oedolion a phlant. 

O fewn ysgolion, golygai hyn gofnodi eich pryderon a’u pasio ymlaen i’r Person Diogelu Dynodedig (PDD).

Mae’n bwysig iawn ein bod yn cofnodi unrhyw bryderon sydd gennym, ac wedyn bydd y PDD yn gallu adeiladu llun llawnach o’r sefyllfa.

Llinellau Cymorth
  • Childline – Cymorth 24 awr y dydd ar gyfer pobl ifanc, dros y ffôn a thrwy sgyrsiau ar-lein a byrddau negeseuo 0800 1111 
  • The Mix – gwybodaeth a chefnogaeth i rai dan 25 oed 0808 808 4994 
  • Meic – 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos 080880 23456 gydag opsiynau sgwrsio ar-lein ar gael hefyd. Testun 84001  
  • Galop – ar gyfer cefnogi pobl LGBT+ 0800 999 5428 help@galop.org.uk 
  • Samaritans – ar gael 24/7 galwch am ddim ar 116 123, e-bost jo@samaritans.org neu sgwrsio ar-lein 
  • NSPCC – 0808 800 5000  
  • NAPAC National Association for People Abused in Childhood 0808 801 0331 
    • Dydd Llun i Ddydd Iau: 10am – 9pm 
    • Dydd Gwener: 10am – 6pm 
    • Dydd Sadwrn a Dydd Sul – Ar Gau 
Adborth

Feedback is important to us, if you have the time please fill out the form below. We use your feedback to make further improvements to our course content to provide you a better service.

Template File: single.php