Signs and Indicators – 5. Chwilfrydedd Proffesiynol
- boeler wedi torri
- dim sebon, siampŵ a.y.y.b. i ymolchi
- dim dŵr tap
- peiriant golchi wedi torri a dim car i fynd i’r golchdy
- heb gael eu haddysgu sut i ymolchi
- rhieni ddim yn sicrhau eu bod yn ymolchi’n rheolaidd
- dim gwres yn y tŷ felly arogl tamp ar ddillad
- caethiwed i sylweddau gan yr unigolyn neu rieni sy’n golygu nad ydynt hyd yn oed yn meddwl am ymolchi
- person ddim yn hoffi’r ymdeimlad / teimlad o ymolchi
Gall y rhestr fynd ymlaen. Mae’n debyg y byddech yn gallu dosbarthu’r rhan fwyaf o’r uchod fel esgeuluso posibl.
Ond, gall hylendid gwael hefyd fod yn arwydd o sefyllfaoedd mwy cymhleth:
- Cam-drin rhywiol – yn osgoi ymolchi’n bwrpasol fel mecanwaith amddiffynnol yn erbyn camdrinwyr
- Cam-drin emosiynol – yn esgeuluso hunan-ofal oherwydd teimladau o ddiwerth
- Cam-drin ariannol – diffyg mynediad i gyfleusterau tra’n cael eu hecsbloetio, megis mewn sefyllfaoedd masnachu cyffuriau
- Cam-drin corfforol – fel yn achos Baby P, ble roedd siocled yn cael ei ddefnyddio i guddio cleisiau
Mae’n bwysig cofio nad oes angen categoreiddio’r mathau o gam-drin, dim ond yn y cynadleddau achos pan yn rhoi plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant. Ym mhob sefyllfa arall, ein rôl ni yw i arsylwi ac i adrodd ar y dangosyddion hyn, beth bynnag yw’r categori y gallent fod yn ei grybwyll.