Jane Ashman Logo

Signs and Indicators – 2. Rhwystrau i ddatgeliad

Mae llawer o ddatgeliadau sydd ddim yn cael eu hadnabod, yn cael eu diystyrru, yn cael eu bychanu neu eu hanwybyddu, gyda ‘My Grandfather the abuser: Poppy’s story’ ar y BBC yn esiampl o hyn. Dywedodd Poppy wrth ei rhieni pan roedd hi’n 5 oed am y cam-drin rhywiol roedd yn ei brofi gan ei thaid. Cymerodd ei rhieni’r pryderon o ddifrif, a siarad gyda’r taid. Ond, nid oeddent wedi deall graddau llawn y cam-drin roedd wedi ei brofi. Roeddent yn meddwl mai dim ond wedi gweld ei thaid yn noeth wedi iddo adael y gawod oedd Poppy.

Mae goroeswyr eraill wedi dweud, “Roedd cymaint o adegau pan feddyliais i am ddweud wrth rhywun, ond sut ydych chi’n codi’r peth? Sut ydych chi’n cerdded i mewn i ystafell ac yn dweud wrth rhywun, “ac mae hyn wedi digwydd?”

Cofiwch: Nid yw’r cyfrifoldeb am ddatgelu ar y plentyn. Yn hytrach, mae’n ddyletswydd arnom ni i greu sefyllfaoedd diogel i blant i gyfathrebu – boed hynny drwy eiriau neu ymddygiad – ac i sicrhau eu bod yn teimlo’n ddigon diogel i wneud hynny.

Template File: single.php