Jane Ashman Logo

Signs and Indicators – 1. Pam mae arwyddion a dangosyddion mor bwysig

Mae’r diffiniad o blentyn mewn risg ac oedolyn mewn risg yn dechrau gyda’r frawddeg:

“[plentyn neu oedolyn] sy’n profi neu mewn risg o gamdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed.”

Os edrychwn ni ar y frawddeg hon, mae 2 ran iddi, sef “profi” ac “mewn risg”.

Doedd y diffiniadau cynharach ddim ond yn ymwneud ag achosion ble roedd plant yn profi niwed sylweddol. Mae’n bwysig deall mai dim ond dwy ffordd sydd i ni i wybod gyda sicrwydd am gamdriniaeth: naill ai drwy dystio iddo ein hunain, neu pan mae rhywun yn dweud wrthym amdano. Golygai hyn y gallem fod yn disgwyl am amser hir iawn cyn i gamdriniaeth ddod i’r amlwg.

Mae ymchwil wedi dangos i ni, pan mae plant yn dewis siarad amdano yn ystod eu plentyndod ei fod, fel arfer, yn cymryd tua 7 mlynedd iddynt i wneud hynny. Yn hyd yn oed mwy pryderus, i’r rhai sy’n disgwyl nes maent yn oedolion cyn datgelu camdriniaeth yn ystod eu plentyndod, maent, ar gyfartaledd, yn cymryd 27 mlynedd cyn siarad amdano. Dengys hyn sut, gyda’r diffiniad blaenorol, y gallai’r cam-drin barhau heb ei ganfod am ddegawdau.

Mae’r diffiniad presennol yn cynnwys yr ymadrodd ‘mae mewn risg’, sy’n ein galluogi i weithredu’n seiliedig ar arwyddion a dangosyddion rhybudd yr ydym yn eu gweld. Dylid adrodd ar unrhyw bryderon sydd gennym am les plentyn neu oedolyn, waeth pa mor fychan, at y PDD.

Template File: single.php