Jane Ashman Logo

Safer Recruitment – 9. Y Cyfweliad a’r Broses Ddethol

Mae’r cam yma’n ymwneud â gwneud y penderfyniadau cywir. Mae arfer dda’n cynnwys ystod o arfau dethol, nid y cyfweliad yn unig. Efallai bod ystod o bobl yn rhan o’r broses asesu ac mae’n bwysig bod yr holl aseswyr wedi’u briffio’n llawn ar yr hyn maent yn edrych amdano, e.e. rhyngweithiadau gydag eraill mewn ymarferion chwarae rôl neu grŵp, cyfranogiad addas gan blant.

Mae’n bwysig bod aseswyr yn pasio unrhyw wybodaeth / arsylwadau perthnasol ymlaen i’r panel cyfweld. Gellir codi’r pwyntiau hyn gyda’r ymgeisydd yn ystod y cyfweliad gan roi’r cyfle iddynt i ymateb ac esbonio.

Yn ystod y cyfweliad, mae’n bwysig bod y panel yn cynnwys o leiaf dau gyfwelydd ac, yn ddelfrydol, dylai’r rhain fod wedi bod yn rhan o’r broses o dynnu’r rhestr fer.

Gofynnir i bob ymgeisydd set o gwestiynau sy’n seiliedig ar y rôl. Cewch hefyd ddefnyddio’r cyfweliad i archwilio ac i ofyn cwestiynau mwy manwl  yn ymwneud â’r wybodaeth neu’r diffyg gwybodaeth yn eu ffurflen gais neu eirda, e.e. newidiadau cyson mewn cyflogaeth, bylchau mewn hanes cyflogaeth, neu ddatganiadau annelwig mewn geirda.

Mae angen i ni ddeall beth sydd wedi eu denu i’r swydd yma a’u cymhellion dros weithio gyda phlant. Mae’n well osgoi cwestiynau damcaniaethol ac, yn hytrach, gofyn cwestiynau ble gallent rannu esiampl neu dystiolaeth o’r hyn y maent wedi ei wneud. Mae’n arfer dda i ysgrifennu’r pwyntiau allweddol o sut byddai ateb da yn edrych (dangosyddion cadarnhaol) a sut byddai ateb gwael yn edrych (dangosyddion negyddol).

Dyma rai esiamplau da i ddechrau brawddeg ar gyfer cwestiynau:

  • Dywedwch wrthyf am amser pan ….
  • Rhowch esiampl i mi o ….
  • Sut ydych chi wedi ….
  • Ydych chi erioed wedi bod mewn sefyllfa ble …. Beth wnaethoch chi?

Gweithgaredd

Gan ddefnyddio’r dechrau hyn i frawddegau, lluniwch 3 cwestiwn y gallech eu defnyddio mewn cyfweliad yn edrych yn benodol ar ddiogelu. Dyma esiampl i chi:

Dywedwch wrthyf am amser yn y dosbarth pan heriwyd eich awdurdod.

  • Beth ddigwyddodd?
  • Sut wnaethoch chi ymateb?
  • Beth wnaethoch chi i sefydlogi pethau?

Y dangosyddion cadarnahol yn y sefyllfa honno fyddai eu bod yn gyson pan o dan bwysau, gyda rheolaeth dros eu hemosiynau ac yn gwybod pryd i ofyn am gymorth.

Y dangosyddion negyddol fyddai ymatebion amhriodol o dan bwysau neu pan yn gyfrifol am eraill, yn delio â gwrthdaro’n wael, ddim yn gofyn am gymorth pan mae ei angen.

Template File: single.php