Jane Ashman Logo

Safer Recruitment – 10. Cwestiynau Cyfweliad

Cwestiynau posibl:

  • Ydych chi erioed wedi teimlo’n anghyfforddus ynghylch ymddygiad cydweithiwr tuag at blant mewn swydd flaenorol? Beth oedd eich pryderon? Beth wnaethoch chi? Sut gafodd y mater ei ddatrys?
  • Mae diogelu plant yn rhan bwysig o’n gwaith. Os gwelwch yn dda, rhowch rai esiamplau i mi o sut y byddech yn cyfrannu tuag at wneud y sefydliad yn amgylchedd mwy diogel i blant.
  • Dywedwch wrthyf am amser pan oedd plentyn neu berson ifanc yn ymddwyn mewn modd achosodd bryder i chi. Sut wnaethoch chi ddelio gyda hynny? Pwy arall wnaethoch chi eu cynnwys?
  • Pam ydych chi eisiau gweithio gyda phlant? Beth ydych chi’n ei feddwl sydd gennych i’w gynnig?
  • Dywedwch wrthym beth mae ‘hyrwyddo gwerthoedd sylfaenol Prydeinig’ yn ei olygu i chi?
  • Mae bwlio yn aml yn fater difrifol sydd yn rhaid delio ag ef ym mhob ardal o weithio gyda phlant. Yn eich profiad chi, beth yw’r ffordd orau i ddelio ag ef? Sut oedd eich sefydliad blaenorol yn mynd i’r afael ag ef?

Gallai dangosyddion negyddol i’r cwestiynau gynnwys:

  • Diffyg cydnabyddiaeth / dealltwriaeth fod plant yn agored i niwed
  • Goblygiad bod plant ac oedolion yn gyfartal (ffrindiau)
  • Delfrydu plant
  • Iaith amhriodol wrth siarad am blant
  • Mynegi barn sy’n eithafol neu sydd ddim yn cefnogi diogelu
  • Aneglur ynghylch ffiniau priodol
  • Annelwig ynghylch profiadau neu fylchau neu’n methu rhoi unrhyw esiamplau i gefnogi’r hyn maent yn ei ddweud wrthych
  • ‘Maverick’ – ddim yn dilyn rheolau, yn amharod i weithio gydag eraill

Mae’n hanfodol eich bod yn cofnodi eich penderfyniadau a’ch sgorau yn glir (ble’n briodol) ar gyfer pob ymgeisydd. Dyma eich tystiolaeth os bydd penderfyniad i apwyntio’n cael ei herio.

Unwaith mae’r panel wedi cyfweld yr holl ymgeiswyr, mae angen iddynt benderfynu os ydynt yn mynd i allu wneud penderfyniad nawr (os mai hynny oedd y bwriad gwreiddiol) neu os ydynt am yrru’r ymgeiswyr adref a’u hysbysu o’r penderfyniad yn ddiweddarach. Sicrhewch, os ydych am eu hysbysu’n ddiweddarach, eu bod yn gwybod pryd y byddwch yn cysylltu â hwy. Os nad ydynt wedi cael cynnig y swydd, yna sicrhewch fod gennych adborth yn barod ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr.

Template File: single.php