Safer Recruitment – 8. Ffurflenni cais a rhestr fer
I ddechrau, cymharwch y ffurflen gais gyda’r meini prawf hanfodol a dymunol yn y fanyleb a’r swydd ddisgrifiad. Mae’n rhaid i chi fod yn wrthrychol yn ystod y cam yma, a byddwn yn cynghori bod dau berson yn cynnal y broses hon. Gyda dau berson yn edrych arnynt ar wahan, rydych yn llai tebygol o fethu rhywbeth. Hefyd, os cewch eich herio ynghylch pam bod ymgeisydd heb gyrraedd y rhestr fer, rydych yn llai tebygol o gael eich cyhuddo o duedd os oedd dau adolygydd annibynnol.
Yn ystod y cyfnod hwn, dylech adnabod bylchau mewn hanes cyflogaeth, neu wahaniaethau neu anghysondebau
Yn ddelfrydol dylech fod â rhestr fer o 3 neu 4 o bobl i sicrhau y gall proses gyfweld drwyadl gymryd lle. Os oes gennych fwy na hyn, gallai cyfyngder amser ddechrau chwarae rhan, ac wedyn gellir gwneud penderfyniadau gwael.
Unwaith rydych wedi tynnu rhestr fer o’r ymgeiswyr, dylech ofyn iddynt i gwblhau, arwyddo, a dychwelyd hunan-ddatgeliad hanes troseddu / priodoldeb cyn y cyfweliad. Bydd hyn yn caniatáu i chi ofyn cwestiunau gwybodus yn ystod y cyfweliad.
Dylid gofyn am a gweld geirda cyn y cyfweliad, gan fod profiad yn dangos mai sut y mae person wedi ymddwyn yn y gorffennol yw un o’r dangosyddion mwyaf dibynadwy o’r modd y byddent yn ymddwyn yn y dyfodol. Mae gofyn cyn y cyfweliad yn rhoi’r cyfle i’r ymgeisydd i egluro unrhyw bwyntiau sy’n codi o’r geirda. Gan fod rolau mewn ysgolion, yn gyffredinol, yn golygu gweithio gyda phlant, mae’n hanfodol os yw ymgeisydd wedi gweithio gyda phlant yn flaenorol, bod o leiaf un o’r geirda yn gorfod bod o’r cyflogwr hwnnw. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer rolau cyflogedig a gwirfoddol. Gallai hyn olygu gofyn am eirda ychwanegol os nad hwnnw yw eu cyflogwr presennol. Dylai’r cais am eirda ofyn i’r canolwr i ddatgan os ydynt yn ymwybodol o unrhyw beth fyddai’n achosi pryder ynghylch priodoldeb y person i weithio gyda phlant. Os felly, dylent ddarparu manylion. Mae’n rhaid hefyd i chi ofyn yn benodol os yw’r person wedi bod yn destun honiadau yn ymwneud â’u hymddygiad tuag at blant. Os mai hyn yw’r achos, yna mae’n rhaid i chi gaffael crynodeb o’r honiadau a wnaed, manylion am sut yr oedd pob honiad wedi ei ddilyn i fyny a’i ddatrys, a nodiadau ynghylch unrhyw gamau a gymerwyd ac unrhyw benderfyniadau a wnaed.
Mae’n rhaid i chi sicrhau fod y geirda wedi ei gwblhau gan reolwr neu oruchwyliwr uniongyrchol yr unigolyn.
Dylid craffu ar y geirda yn yr un modd â’r ffurflen gais. Os oes unrhyw fylchau neu ddatganiadau annelwig, dylid cysylltu’n uniongyrchol gyda’r canolwr i egluro’r ardaloedd hyn. Wedyn, mae angen i chi gymharu’r wybodaeth yn y geirda gyda’r ffurflen gais a sicrhau bod popeth yn cydberthyn.
Ni ddylid derbyn geirda agored yn ddi-gwestiwn, oherwydd gallent fod o ganlyniad i gytundeb setlo. Mae’n rhaid caffael geirda yn uniongyrchol o’r ffynhonnell bob amser.
Wrth wahodd ymgeiswyr i gyfweliad, anfonwch restr o’r ddogfennaeth sydd angen iddynt ddod gyda hwy ar y diwrnod. Mae hefyd yn gwrtais i adael iddynt wybod beth fydd y broses yn ei gynnwys ac os bydd disgwyliad iddynt aros am y diwrnod llawn. Rhowch linell amser ar wneud y penderfyniadau i’r ymgeiswyr. Hysbyswch hwy os yw’r cyfweliadau’n cymryd lle ar fwy nac un diwrnod.