Safer Recruitment – 7. Gwiriadau Cyn-cyfweliad
Pan yn amserlennu’r broses recriwtio, sicrhewch bod amser diogonol wedi ei ddyrannu rhwng hysbysebu a phenodi ar gyfer:
- Adolygiad trwyadl o’r ffurflenni cais
- Gwirio a chadarnhau geirda
- Casglu gwybodaeth ychwanegol os oes angen
- Paratoi cwestiynau cyfweliad yn seiliedig ar y canfyddiadau
Gwiriadau Presenoldeb Ar-lein
Yn Lloegr, mae’r arweinad ‘Keeping Children Safe in Education’ yn datgan:
‘Fel rhan o’r broses o dynnu rhestr fer, dylai ysgolion a cholegau ystyried cynnal chwilio ar-lein fel rhan o’u diwydrwydd dyladwy ar yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer. Gallai hyn helpu i adnabod unrhyw ddigwyddiadau neu faterion sydd wedi digwydd, ac ar gael yn gyhoeddus ar-lein, y byddai’r ysgol neu’r coleg yn dymuno eu harchwilio gyda’r ymgeisydd yn y cyfweliad, o bosibl.’
Tra nad yw hyn yn orfodol yn ein arweiniad presennol ‘Keeping Learners Safe’ (KLS) ar hyn o bryd, efallai y byddai ysgolion yn ystyried gweithredu gwiriadau ar lein. Os yn gwneud hynny:
- Hysbyswch yr unigolion sydd ar y rhestr fer y byddwch yn cynnal y gwiriadau hyn
- Gofyn am bob enw defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol gan ymgeiswyr
- Sicrhewch nad yw’r person sy’n cynnal y gwiriadau ar-lein ar y panel cyfweld
- Dylai’r person sy’n cynnal y gwiriadau basio’r holl wybodaeth ymlaen i’r panel i’w hystyried