Jane Ashman Logo

Safer Recruitment – 3. Pwysigrwydd Recriwtio Mwy Diogel

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), a sefydlwyd gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr ar draws 11 gwahanol grŵp o fewn y gweithlu addysg i gofrestru gyda hwy. Mae athrawon ysgol a gweithwyr cefnogaeth dysgu ysgolion yn gyfrifol am oddeutu 95% o’r cofrestreion. Mae cyfrifoldebau’r CGA yn cynnwys archwilio honiadau a allai gwestiynu priodoldeb ymarferydd i ymarfer. Maent hefyd yn cynnal côd Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae’n rhaid i’r holl staff ymlynu i’r Côd hwn a dylid cyfeirio ato ym mhob Polisi Ymddygiad Staff ysgol.

Dengys y data isod, er gwaethaf hyfforddiant diogelu cynhwysfawr a disgwyliadau ymddygiadol clir, fod y paneli Priodoldeb i Ymarfer yn parhau i ddelio â digwyddiadau o gamymddygiad yn rheolaidd.

Os hoffech weld yr achosion diweddaraf sydd wedi eu sancsiynu yna cliciwch yma Canlyniadau gwrandawiadau

I ddarllen yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan y CGA cliciwch yma Adroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer

Template File: single.php