Safer Recruitment – 12. Ongoing Vigilance
Diwylliant parhaus o wyliadwriaeth
Unwaith mae’r aelod staff wedi cwblhau’r holl wiriadau ac yn barod i ddechrau, dyma’r adeg i’w hymdrochi yn niwylliant diogelu’r ysgol ac i fod â’r ymagwedd y gallai materion fod yn digwydd yma, ond bod angen i ni sylwi arno. Y cam cyntaf yma yw’r anwythiad. Darllennwch fy mlog ar anwythiadau diogelu. Mae ansawdd anwythiadau’n amrywio’n fawr ar draws sefydliadau.
Mae angen i staff fod yn ymwybodol o’r gweithdrefnau a phrosesau yn yr ysgol maent yn gweithio ynddi i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r disgwyliadau. Mae angen hefyd i staff wybod sut i adrodd ar bryderon ynghylch staff neu unrhyw weithiwr proffesiynol sy’n mynychu’r safle. Mae’n bwysig bod hyn yn eglur ar draws yr ysgol. Os nad ydych yn ymwybodol ynghylch pwy i adrodd atynt, mae angen i chi ofyn y cwestiwn yn eich ysgol. Byddwn yn edrych ar hyn mewn mwy o fanylder yn y modiwl Honiadau yn Erbyn Staff a Gweithwyr Proffesiynol.