Jane Ashman Logo

Roles and Responsibilities – 7. Uwchgyfeirio Pryderon os Na Fydd Gweithredu’n Digwydd

Trawsgrifiad Fideo

Mae’n bwysig iawn, pan rydym yn deall rolau a chyfrifoldebau pobl, bod gennym enwau pobl, bod gennym rifau cyswllt, e-byst. Felly, pan rydym yn siarad yn y fan yna am eich Llywodraethwr Diogelu, eich Cadeirydd Llywodraethwyr, a oes gennych chi enwau ar gyfer yr unigolion hynny? A oes gennych chi rif cyswllt ar gyfer yr unigolion hynny? Ydych chi’n gwybod pwy ydyn nhw? Ydyn nhw wedi bod i mewn i’r ysgol ac wedi cael eu cyflwyno i chi?

Oherwydd, eto, mae’n gymaint haws ffonio rhywun pan mae gennych chi wyneb, os ydych chi wedi cyfarfod rhywun o’r blaen mae’n llawer haws. Os nad ydych yn gwybod pwy yw’r unigolion hyn yn eich ysgol chi, yna gwnewch yn siŵr eich bod yn darganfod hynny wedi i chi gwblhau’r modiwl hwn os gwelwch yn dda. Pwy ydyn nhw, rhifau cyswllt. Ni ddylai’r rhifau cyswllt fod yn rif cyswllt Clerc y Llywodraethwyr. Dylai hwn fod yn rif uniongyrchol i’r Llywodraethwr Diogelu neu Gadeirydd y Llywodraethwyr.

Nawr, efallai na fyddwch yn dod o hyd iddynt yn eich polisi oherwydd, eto, y cwestiwn yw, dogfen pa mor gyhoeddus yw eich polisi? Dylai fod ar gael ar eich gwefan, dylai fod ar gael i’ch rhieni i gyd. Efallai nad ydym am i rifau ffôn symudol y Llywodraethwr Diogelu neu Gadeirydd y Llywodraethwyr fod ar gael 24/7 i bawb. Felly, fel aelod staff, mae gennych yr hawl i gael y rhifau hynny.

Pam bod ni eu hangen? Uwchgyfeirio (‘escalation’). Pan edrychwn ni ar y rheolau a’r cyfrifoldebau, mae gennym gyfrifoldebau fel staff i adrodd ar ein pryderon i’n PDD. Ac, wedyn, rydym yn disgwyl i’n PDD gymryd camau gyda’r wybodaeth honno, boed hynny iddynt gael cefnogaeth i’r teulu, boed hynny’n sgwrs gyda’r teulu, neu eu bod yn adrodd at y gwasanaethau plant.

Weithiau, ac mae achosion wedi bod, mae pobl wedi adrodd i’r PDD a dim camau gweithredu wedi digwydd. Roedd yna achos ble nad oedd Pennaeth wedi cymryd pryderon ei staff ac, trwy beidio pasio’r pryderon am yr eneth ymlaen, roedd un aelod staff yn meddwl dros y penwythnos, “Na, dydw i ddim yn hapus o gwbl. Beth wnâi, ddydd Llun, yw cysylltu gyda’r gwasanaethau plant.”

Yn drist, bu farw’r ferch honno dros y penwythnos, a cafodd y Pennaeth yna eu dedfrydu, oherwydd roeddent wedi methu amddiffyn y plant hynny, roedd yr holl wybodaeth yna ganddynt. Felly, mae’n hynod bwysig ein bod yn gwybod beth yw’r gweithdrefnau uwchgyfeirio.

Felly, os ydyn ni’n aelod staff, byddwn yn ei yrru i’r PDD fel arfer, os nad yw’r PDD ar gael, y Dirprwy PDD, y Pennaeth. Ond, os nad ydynt ar gael, neu nad ydynt yn cymryd camau gweithredu, yna mae angen i ni ystyried, fel dywedais i, pasio’r wybodaeth yna ymlaen i Gadeirydd y Llywodraethwyr neu i’n Llywodraethwr Diogelu os ydym yn pryderu am blentyn.

Eto, os ydym yn pryderu nad ydynt yn cymryd y camau gweithredu priodol, mae gennym yr hawl i gysylltu â’r gwasanaethau plant ac i wneud yr alwad ffôn yna ac i roi ein hadroddiad ein hunain i mewn am y pryder, yn enwedig os nad ydym yn teimlo eu bod yn cymryd camau gweithredu.

Mae’n rhaid i ni gynnwys hynny yn yr adroddiad, gan ddweud, “Edrychwch, rwyf wedi adrodd i’n PDD, rwyf wedi adrodd arno i Gadeirydd y Llywodraethwyr, ond, rwy’n dal i deimlo nad oes unrhyw gamau gweithredu’n digwydd er mwyn diogelu’r plentyn yma.” Rydych yn dal i fynd nes i chi gael ateb.

Fel dywedon ni, os yw’r honiad yn erbyn staff, nawr mae hynny’n dibynnu os ydych chi wedi gwneud y modiwl ‘Honiadau yn Erbyn Staff’ ai peidio, ond beth rydyn ni’n ei ddweud yn glir yn y fan yna yw, eto, bod y pryderon hynny’n mynd yn syth i’r Pennaeth.

Os yw’r pryder yn erbyn y Pennaeth, yna mae’n mynd i Gadeirydd y Llywodraethwyr, eto nid ‘Dynodedig’, i’r Cadeirydd. Ac yna, os yw yn erbyn y Cadeirydd, neu’r Pennaeth, gallwn hefyd fynd at yr awdurdod lleol. Felly i’r Swyddog Diogelu Dynodedig yn y fan yna.

Eto, ydych chi’n gwybod pwy yw’r unigolyn yna? Efallai na fydd rhai polisïau ond yn rhoi’r teitl i chi, rhif cyswllt ar gyfer yr awdurdod efallai, ond beth rydych chi ei angen yw – rydych angen enw ar gyfer yr unigolyn yna. Bydd yr unigolyn yna wedi eu lleoli o fewn yr adran addysg ac, eto, gallwn eu defnyddio os nad ydym yn hapus gyda’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd, neu’n dibynnu yn erbyn pwy mae’r pryder.

Hefyd, ar ben hynny, os ydyn ni’n meddwl nad ydynt yn gweithredu, gallwn barhau i fynd at y gwasanaethau plant yn uniongyrchol. Gallwn gwblhau’r ffurflen adrodd, gan ddweud beth yw ein pryderon. Gallwn eu ffonio, cael y sgwrs gyda nhw.

Beth na ddylwn ei wneud, byth, yw stopio, gan feddwl, “Mae’n iawn, rwyf wedi pasio’r wybodaeth ymlaen, dyna ni, rwyf wedi gwneud fy ngwaith.” Na, nid yw wedi ei wneud. Os nad oes camau gweithredu’n digwydd, mae eich gwaith a’ch rôl yn mynd ymlaen, i wneud yn siŵr ein bod yn amddiffyn y plentyn yna. Felly rydym yn mynd â’r mater ymlaen.

Mae gweithdrefnau uwchgyfeirio hefyd o fewn y byrddau diogelu rhanbarthol. Felly, os rydyn ni’n meddwl nad yw’r gwasanaethau plant yn gweithredu, beth mae eich PDD yn ei wneud wedyn yw i fynd ag ef ymlaen drwy’r camau hynny, ac fe allai hynny fynd i fyny yr holl ffordd i Gadeirydd y Byrddau Diogelu Rhanbarthol.

Felly, os gwelwch yn dda, beth bynnag wnewch chi, peidiwch ag eistedd a meddwl, “mae’n iawn, rwyf wedi ei basio ymlaen.” Os gwelwch yn dda, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn i fyny gyda hynny, yn darganfod beth sy’n digwydd. Efallai na gewch chi fanylion y gweithredu, oherwydd ei fod yn dibynnu ar beth rydym angen ei wybod.

Ond yr hyn y byddan nhw’n ei ddweud wrthych yw, “Rydym wedi ei basio ymlaen” neu “Nid yw’n cyrraedd y trothwyon yn hollol” os ydych chi’n cofio o ‘Lefel yr Angen’, mae’n yr adran goch honno, “felly rydym wedi gofyn i’r rhieni am ganiatâd ac, yn anffodus, mae’r rhieni wedi dweud na.” Ac wedyn fe fyddai gweithdrefnau eraill i’w dilyn yn y fan yna. Ond, plîs, peidiwch â stopio nes i chi gael y camau gweithredu rydych chi’n meddwl sydd eu hangen ar gyfer y plentyn.

Template File: single.php