Roles and Responsibilities – 6. Cyrff Llywodraethol a Pherchnogion
Mae cyrff llywodraethol yn atebol ar gyfer sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau effeithiol yn eu lle i ddiogelu ac i hyrwyddo llesiant plant ac oedolion. Golygai hyn y byddant yn mabwysiadu’r polisi diogelu ac unrhyw weithdrefnau eraill yr awdurdod lleol, sy’n ymestyn y tu hwnt i’r diwrnod ysgol (e.e. gweithgareddau cymunedol ar safle’r ysgol).
Byddant yn sicrhau bod yr holl bolisïau perthnasol ar gael ar gyfer rhieni, naill ai drwy’r wefan neu ar gais a’u bod yn cael eu darparu mewn fformat sydd yn hygyrch.
Mae’n rhaid i’r corff llywodraethol weithredu gweithdrefnau recriwtio diogel a sicrhau bod yr holl staff a llywodraethwyr wedi derbyn hyfforddiant i’r safon ofynnol.
Dylid cywiro unrhyw ddiffygion sydd wedi’u dwyn i’w sylw heb oedi.
Dylent adnabod llywodraethwr dynodedig ar gyfer diogelu, fydd yn cymryd cyfrifoldeb am holl faterion amddiffyn plant. Dylai’r person yma gyfarfod yn rheolaidd gyda’r PDD i drafod diogelu a chynnydd ar y cynllun datblygu diogelu. Gallent hefyd drafod achosion unigol i benderfynu y ffordd orau i gefnogi’r plentyn neu deulu. Mae’r rhain yn gyfarfodydd cyfrinachol, ac ni ellir trafod y materion hyn gyda llywodraethwyr eraill.
Ar gyfer honiadau yn erbyn staff, cadeirydd y llywodraethwyr fydd yn ymwneud â hyn (gweler y modiwl Honiadau yn Erbyn Staff), ond nid mewn modd ymchwiliol. Bydd achosion yn cael eu hymchwilio o dan drefniadau a osodwyd allan yn yr arweiniad cenedlaethol.