Jane Ashman Logo

Roles and Responsibilities – 5. Pennaeth

Mae penaethiaid yn gyfrifol am y diwylliant o fewn eu hysgol. Dylent feithrin diwylliant diogelu
sy’n hyrwyddo cyfathrebu agored rhwng staff a disgyblion ar faterion diogelu. Dylent hyrwyddo perthnasoedd da gyda rhieni, er mwyn iddynt deimlo y gallent siarad gyda staff yr ysgol am faterion diogelu.

Mae’r pennaeth yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl staff (yn cynnwys athrawon llanw a gwirfoddolwyr:

  • Yn gweithredu ac yn dilyn y polisïau a’r gweithdrefnau diogelu a fabwysiadwyd gan y corff llywodraethol neu’r perchennog yn llawn
  • Â’r amser a mynediad i adnoddau digonol i’w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau, yn cynnwys cymryd rhan mewn trafodaethau strategaeth a chyfarfodydd rhyngasiantaethol eraill, yn ogystal â chyfrannu tuag at asesu’r plant.
  • Yn deall y gweithdrefnau ar gyfer diogelu plant, yn teimlo’n eu bod yn gallu codi pryderon am arfer gwael neu anniogel, ac yn hyderus y bydd pryderon o’r fath yn cael eu trin yn sensitif ac yn effeithiol ac mewn modd amserol yn unol â Gweithdrefnau Llywodraeth Cymru ar gyfer Chwythu’r Chwiban mewn Ysgolion a’r Polisi Model.
  • Fel rhan o’u hanwythiad, yn derbyn datganiad ysgrifenedig am bolisi a gweithdrefnau’r ysgol neu goleg ac enw a manylion cyswllt y PDD.

Fel y soniwyd yn gynharach, mae’n rhaid i’r pennaeth benodi’r nifer priodol o PDD a dirprwy
PDD ar gyfer eu lleoliad addysg ac fe ddylai sicrhau bod y PDD:

  • Yn cael digon o amser ac adnoddau i gyflawni’r rôl yn effeithiol, a dylid ei ddiffinio’n eglur yn swydd ddisgrifiad deilydd y swydd.
  • Â mynediad i’r lefelau angenrheidiol o hyfforddiant a chefnogaeth i ymgymryd â’r rôl, yn cynnwys hyfforddiant diogelwch ar-lein.
  • Â’r amser i fynychu ac i ddarparu adroddiadau a chyngor i gynadleddau achos a chyfarfodydd rhyngasiantaethol eraill yn ôl yr angen.
  • Â’r offer TGCh priodol i gyflawni’r rôl yn effeithiol.

Template File: single.php