Roles and Responsibilities – 4. KLS
Dyma’r prif bwyntiau a grybwyllir yn Cadw Dysgwyr yn Ddiogel:
Amddiffyn Plant ac Oedolion
“Bydd y person diogelu dynodedig yn gyfrifol am arfer, polisi, gweithdrefnau a datblygiad proffesiynol y lleoliad addysg mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant, gan weithio gydag asiantaethau eraill fel y bo angen. Dylai’r person diogelu dynodedig sicrhau bod polisi diogelu’r lleoliad addysg yn cael ei ddiweddaru a’i adolygu bob blwyddyn, a chydweithio â’r corff llywodraethu neu’r perchennog mewn perthynas â hyn.
Y person diogelu dynodedig sy’n gyfrifol am sicrhau bod rhieni/gofalwyr yn gweld copïau o’r polisi diogelu plant. Gall hyn helpu i osgoi’r posibilrwydd o wrthdaro yn nes ymlaen drwy dynnu eu sylw at rôl y lleoliad addysg a’r ffaith y gellir hysbysu’r awdurdod lleol o bryderon ynglŷn â diogelu. Bydd llawer o leoliadau addysg yn cynnwys gwybodaeth am hyn mewn cyfarfodydd sefydlu i rieni/gofalwyr newydd, yn eu prosbectws ac ar eu gwefan.
Yn ogystal â pholisi diogelu’r lleoliad addysg, mae polisïau eraill yn berthnasol i ddiogelu ac mae’n bosibl y bydd y person diogelu dynodedig yn rhan o’r broses o fonitro effeithiolrwydd y polisïau eraill hyn er mwyn sicrhau cysondeb a chydlyniad o ran y ffordd y mae’r ysgol yn diogelu ei phlant yn effeithiol.”
Mae polisïau’n allweddol i helpu plant, oedolion a staff i ddeall beth mae disgwyl i staff ei wneud a’r hyn y gallent ei wneud. Maent yn helpu i ddarparu strwythur ar gyfer ein ffiniau proffesiynol. Mae’n bwysig bod staff yn darllen y polisïau maent yn cytuno i gadw atynt. Mae rheini angen gwybod pa drefniadau sydd gan ysgolion yn eu lle i ddiogelu eu plentyn a’r hyn i’w wneud os oes ganddynt bryderon.
Atal Amhariad i Ddatblygiad
“Dylai’r person diogelu dynodedig hefyd ystyried sut y gellir ymdrin â materion sy’n
ymwneud â diogelu yn ehangach a sicrhau y caiff mesurau ataliol eu mabwysiadu yn y
lleoliad addysg. Bydd y rhan hon o’r rôl yn cynnwys meithrin cydberthnasau ag asiantaethau
eraill, yn ogystal â sicrhau bod staff a dysgwyr yn ymwybodol o risgiau a sut i gael gafael ar
gymorth. Bydd hyn yn rhan o ddull gweithredu’r ysgol gyfan (lleoliad cyfan) a’r trefniadau
dysgu drwy’r cwricwlwm cyfan.”
Rydym wastad wedi gwybod na allwn amddiffyn plant yn gorfforol 24 awr y dydd, bob dydd.
Beth rydym angen ei wneud yw i uwchsgilio plant i fod yn ymwybodol o’r hyn allai fod yn beryglon posibl, a chyda phwy y gallent siarad am eu pryderon. Mae’n rhaid darparu’r cwricwlwm ar lefel sy’n addas i’r oedran a chynnwys pynciau megis meithrin perthynas amhriodol a chyda phwy y gallwn siarad o fewn a’r tu allan i’r ysgol.
Sicrhau eu bod yn Tyfu i Fyny Gyda Gofal Diogel ac Effeithiol
“Dylai’r person diogelu dynodedig feddu ar y sgiliau a’r rhinweddau angenrheidiol ar gyfer y rôl, a fydd yn cynnwys ffocws cryf ar gyfathrebu â dysgwyr a gweithwyr proffesiynol. Gall y rôl hon fod yn un heriol a bydd angen lefel benodol o arbenigedd, gwybodaeth, adnoddau a chymorth.”
Mae gwrando ar lais y plentyn yn allweddol, o’r pryderon sydd ganddynt i helpu i ddatblygu cwricwlwm sy’n diwallu eu hanghenion.
“Dylai’r person diogelu dynodedig sicrhau bod y lleoliad addysg yn cwblhau’r Adnodd Archwilio Trefniadau Diogelu, yn Atodiad 3, i gefnogi dull diogelu ar gyfer y lleoliad addysg cyfan yn ogystal â chynnig meincnod ar gyfer gwella dulliau a strwythurau diogelu yn barhaus. Dylai’r adnodd archwilio gael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod myfyrio, dysgu a diweddaru prosesau yn digwydd yn gyson yn y lleoliad addysg.”
Dylid rhannu’r adnodd archwilio gyda’r llywodraethwyr a’r awdurdod lleol yn flynyddol ac fe ddylai fod yn ddogfen fyw sy’n cael ei diweddaru’n barhaus.
Gweithredu i Gyflawni’r Deilliannau Gorau
“Mae rôl y person diogelu dynodedig yn cynnwys rhoi cyngor a chymorth i aelodau eraill o staff, cadw cofnodion, gweithio gydag aelodau o’r teulu a gofalwyr, atgyfeirio achosion at y gwasanaethau plant a mynd i gyfarfodydd statudol, yn ogystal â chydgysylltu â’r Bwrdd Diogelu Plant a gweithio gydag asiantaethau eraill fel y bo angen. Nid rôl y person diogelu dynodedig yw ymchwilio i honiadau, ond rhaid iddo roi gwybod i’r pennaeth/prifathro am bob pryder ynglŷn â diogelu a godir yn yr ysgol neu’r coleg.
“Rhaid i’r person diogelu dynodedig fod ar gael i drafod pryderon sy’n ymwneud â diogelu; dylid ymgynghori â’r person hwnnw, lle y bo’n bosibl, i drafod a ddylid codi pryder sy’n ymwneud â diogelu â’r awdurdod lleol; a bydd yn rheoli unrhyw gamau gweithredu y mae angen eu cymryd ar unwaith er mwyn sicrhau bod yr unigolyn sy’n wynebu risg yn ddiogel rhag cael ei gam-drin. Dylai pob ymarferydd wybod â phwy y dylid cysylltu yn ei leoliad addysg i gael cyngor a dylai fwrw ati i drafod ei bryderon hyd yn oed os bydd y pryderon hynny’n ymddangos yn gymharol ddibwys.
“Gall y cyfrifoldeb am ddelio ag achosion unigol gael ei ddirprwyo i aelodau eraill o staff, ond mae’n bwysig bod uwch-aelod o staff yn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am y maes gwaith hwn. Dylai’r person diogelu dynodedig gael gwybod yn rheolaidd am hynt a chanlyniad pob achos. Dylid sicrhau bod pob aelod o staff sy’n ymgymryd â’r cyfrifoldebau hyn wedi cael hyfforddiant llawn a’i fod yn meddu ar y sgiliau priodol.”