Roles and Responsibilities – 10. Camau Nesaf
Camau Nesaf
Cael copi o Protocol Gwahaniaethau Proffesiynol y Byrddau Diogelu Rhanbarthol a Ffurflen Adroddiad Aml-asiantaeth (‘MARF’)
I ddod o hyd i’ch bwrdd diogelu rhanbarthol, cliciwch yma: Dod o Hyd i’ch Bwrdd Lleol – Bwrdd Diogelu Cymru
Cliciwch ar y ddolen briodol ar wefan y bwrdd diogelu rhanbarthol.
Yna, cliciwch ar bolisïau a gweithdrefnau rhanbarthol i ddarganfod y Protocol ar gyfer Datrys Gwahaniaethau Proffesiynol neu’r Protocol Aml-asiantaeth ar gyfer Datrys Gwahaniaethau rhwng Ymarferwyr. Yn anffodus, mae gan y gwahanol fyrddau ranbarthol dermau ychydig yn wahanol ar gyfer y protocol.
Cliciwch ar y ffurflen ‘MARF’ ar gyfer y gwasanaethau plant a lawrlwytho copi fel bod gennych chi un rhag ofn y byddwch chi angen adrodd ar unrhyw bryderon.
Os Ydych Chi’n Bryderus
Mae adrannau 128 a 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan ei fod yn ddyletswydd i adrodd ar oedolyn sydd mewn risg neu blentyn sydd mewn risg. Fel aelod staff sy’n gweithio mewn addysg, mae’r ddyletswydd gyfreithiol hon yn berthnasol i ni ac mae’n rhaid i ni adrodd ar unrhyw bryderon sydd gennym am oedolion a phlant.
O fewn ysgolion, golygai hyn gofnodi eich pryderon a’u pasio ymlaen i’r Person Diogelu Dynodedig (PDD).
Mae’n bwysig iawn ein bod yn cofnodi unrhyw bryderon sydd gennym, ac wedyn bydd y PDD yn gallu adeiladu llun llawnach o’r sefyllfa.
Llinellau Cymorth
Childline: 0800 1111
Cefnogaeth 24 awr ar gyfer pobl ifanc, ar y ffôn a thrwy sgyrsiau ar-lein a byrddau negeseuo
The Mix: 0808 808 4994
Gwybodaeth a chefnogaeth i rai dan 25 oed
Meic: 080880 23456, Testun 84001
Gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru
8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, gydag opsiynau sgwrsio ar-lein hefyd ar gael
Galop: 0800 999 5428, help@galop.org.uk
I gefnogi pobl LGBT+
Samaritans: 116 123
Cefnogaeth ar gael 24/7 ffoniwch am ddim, e-bostiwch jo@samaritans.org neu ddefnyddio’r sgwrs ar-lein
NSPCC: 0808 800 5000
NAPAC: 0808 801 0331
National Association for People Abused in Childhood
Dydd Llun i Ddydd Iau: 10am – 9pm, Dydd Gwener: 10am – 6pm, Dydd Sadwrn a Dydd Sul – Ar Gau