Physical Abuse – 6. Agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol
Mae’n bwysig ein bod yn gweithio’n barhaus gyda rhieni i wella eu dealltwriaeth o’r gyfraith yma yng Nghymru. Roedd cyhoeddusrwydd sylweddol pan gafodd y gyfaith ei chyflwyno yn 2022, ond ni fu llawer wedi hynny. Gallem gael rhieni sydd wedi symud i Gymru o wledydd eraill sydd yn cantiatáu slapio plant fel cosb resymol megis yn Lloegr.
Mewn adroddiad gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2024, “Agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol: Tachwedd 2023”,
roedd 11% o’r rhai oedd wedi cwblhau’r arolwg o’r farn y dylid caniatáu cosb gorfforol oedd ‘ddim yn gadael marc o gwbl’ ar y plentyn. Roedd 5% yn meddwl bod rhywbeth sy’n ‘achosi i’r croen gochi dros dro’ yn iawn, a 2% yn meddwl ei fod yn iawn os oedd yn ‘gadael clais am ychydig ddyddiau’.
I ddarllen yr adroddiad yn llawn, cliciwch yma: Agweddau’r cyhoedd i gosbi plant yn gorfforol: Arolwg Ton 7, Tachwedd 2023 | LLYW.CYMRU