Physical Abuse – 5. Dileu’r amddiffyniad cosb resymol
Os hoffech weld y data ar gyfer eich sir chi, yna cliciwch ar y ddolen yma. Nifer y cysylltiadau a dderbynwyd yn ystod y flwyddyn ble roedd cosb gorfforol yn ffactor, yn ôl awdurdod lleol (llyw.cymru)
Trawsgrifiad Fideo
Roedd newid yn y gyfraith yng Nghymru ar 21ain Mawrth 2022, pan gafodd ei weithredu, er i’r ddeddf ddod i mewn yn 2020. Ac mae’r gyfraith, yn syml, yn addasiad o’r Ddeddf Plant yng Nghymru, sef diddymu amddiffyniad gosb resymol. Dilynodd hyn yr hyn oedd wedi digwydd eisioes yn Yr Alban, ble roedd yn weithredol ers mis Tachwedd 2020, ac mae trafodaethau’n parhau yn Lloegr ynghylch ei fabwysiadu yno hefyd ai peidio. Beth mae’r gyfraith yn ei olygu yw na all rhiant slapio eu plentyn ac wedyn datgan ei bod yn gosb resymol, h.y. “Gwnaeth fy mhlentyn hyn, roedd yn anghywir, rwy’n cosbi fy mhlentyn, drwy slapio fy mhlentyn.” Beth mae’n ei olygu nawr yw ei fod yn cael ei gategoreiddio fel ymosodiad. Byddai’r un lefel petai oedolyn yn cael eu slapio hefyd, fyddai eto’n cael ei gategoreiddio fel ymosodiad ac fel trosedd y gellid ei herlyn.
Ydi hynny’n golygu mai ar hynny mae Llywodraeth Cymru’n edrych, y bydd unrhyw fath o gysylltiad corfforol gyda phlentyn yn mynd i gael ei erlyn ac am fynd i’r llys? Beth ddengys y ffigyrau o’r flwyddyn gyntaf, sef 2022 – 2023, yw mai nid hwn yw’r llwybr maent wedi bod yn edrych arno. Yn hytrach na hynny, beth maent wedi bod yn ei wneud yw gweithio i addysgu rhieni.
Roedd, yng Nghymru yn unig, 4,855 cysylltiad gyda’r gwasanaethau plant ble cafodd cosbi ei grybwyll fel bod yn ffactor oedd yn cyfrannu. Yn 2,257 o’r achosion hynny, cosbi oedd yr unig ffactor.
O’r rhai hynny, aeth rhai ymlaen i’r llysoedd a penderfynodd y llysoedd bod angen edrych ar y rhain. Ond, gwnaethpwyd 130 atgyfeiriad ar gyfer cefnogaeth magu plant o’r tu allan i’r llys, oherwydd mai’r holl syniad, ar ddiwedd y dydd, yw i ail-addysgu pobl ac i ddangos iddynt pa opsiynau eraill sydd ar gael. Mae’n rhaid i ni gofio mai’r dull o fagu plant mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei ddefnyddio yw’r hyn rydym wedi ei brofi gan ein rhieni, ac wedyn rydym yn meddwl ei fod yn ddull derbyniol ac yn ei ddefnyddio ein hunain.
Felly, allan o’r 130 oedd wedi eu nodi ar gyfer eu hatgyfeirio, derbyniodd 120 y cynnig, roedd 95 wedi ei gwblhau, ac 20 wedi gwneud hynny’n rhannol pan gasglwyd y data. Dywedodd 80 ohonynt bod y canlyniad wedi bod yn un positif, gan ei fod wedi rhoi strategaethau amgen iddynt i allu eu defnyddio gyda’u plentyn yn hytrach na throi at slapio plentyn yn awtomatig. Pan edrychwn ni ar faint oedd wedi bod i’r llys, beth mae’r data yn ei ddangos i ni (a dim ond marc seren ydyw) yw bod llai na phump wedi mynd drwy’r system CPS ac wedi eu herlyn drwy’r llwybr hwn.