Jane Ashman Logo

Physical Abuse – 12. Arwyddion a Dangosyddion ‘FII’

Isod mae rhestr o’r arwyddion a’r dangosyddion o wefan y GIG i ddangos yr hyn y dylem for yn edrych allan amdanynt.

NHS 111 Wales – Health A-Z : Fabricated or induced illness

Dylent hefyd gadw golwg am 1 neu fwy o’r arwyddion rhybudd a ganlyn:

  • symptomau ddim ond yn ymddangos pan mae’r rhiant neu ofalwr yn bresennol
  • yr unig berson sy’n hawlio eu bod yn sylwi ar y symptomau yw’r rhiant neu ofalwr
  • nid yw’r rhiant neu ofalwr yn caniatáu i weithwyr proffesiynol gofal iechyd weld y plentyn ar eu pen eu hunain
  • mae’r rhiant neu ofalwr yn siarad dros y plentyn, neu mae’r plentyn yn ai gyfeirio at y rhiant neu ofalwr yn hytrach na siarad drostynt eu hunain
  • mae’r plentyn yn ymateb mewn modd sy’n anesboniadwy o wael i feddyginiaeth neu driniaeth arall
  • os yw 1 broblem iechyd yn cael ei datrys, efallai y bydd y rhiant neu ofalwr yn dechrau adrodd ar set newydd o symptomau
  • nid yw symptomau honedig y plentyn yn ymddangos i fod yn gredadwy – er enghraifft, plentyn sydd, yn ôl yr honiad, wedi colli llawer o waed ond ddim yn mynd yn sâl
  • mae gan y rhiant neu ofalwr hanes o newid meddyg teulu’n rheolaidd neu o ymweld â gwahanol ysbytai am driniaeth, yn enwedig os yw eu barn am driniaeth y plentyn yn cael ei herio gan staff meddygol
  • mae gweithgareddau dyddiol y plentyn yn cael eu cyfyngu y tu hwnt i’r hyn y byddech yn ei ddisgwyl fel arfer am gyflwr penodol – er enghriafft, nid ydynt byth yn mynd i’r ysgol neu maent yn gorfod gwisgo bresys coesau er eu bod yn gallu cerdded yn iawn
  • nid yw’r rhiant neu ofalwr yn derbyn y sicrwydd (‘reassurance’) na’r driniaeth a argymhellir, ac yn mynnu ar archwiliadau pellach neu driniaethau newydd
  • mae’r rhiant neu ofalwr yn annog y staff meddygol i gynnal profion a gweithdrediadau, sy’n aml yn boenus, ar y plentyn (profion y byddai’r rhan fwyaf o rieni ddim ond yn cytuno arnynt wedi iddynt gael eu perswadio eu bod yn hollol angenrheidiol)

Template File: single.php