Physical Abuse – 11. Ffugio neu Orfodi Salwch (FII)
Os awn ni’n ôl i’r diffiniad o gam-drin plentyn yn gorfforol, mae’n cynnwys: ataliaeth gorfforol, megis cael eu clymu i wely, eu cloi mewn ystafell, achosi llosgiadau, torri, slapio, dyrnu, brathu neu dagu, trywanu neu saethu, gwrthod bwyd neu sylw meddygol, rhoi cyffuriau, atal cwsg, achosi poen, ysgwyd neu daro babanod, ffugio neu achosi salwch.
Efallai eich bod yn ymwybodol iawn o’r mwyafrif ohonynt, ond efallai nad ydych yn ymwybodol gyda Ffugio neu Achosi Salwch.
Arferai Ffugio neu Achosi Salwch gael ei adnabod fel ‘Munchausen’s Syndrome by proxy’. Mae Ffugio neu Achosi Salwch yn ffurf prin o gam-drin plant ond mae’n digwydd ac mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o hynny. Digwyddai Ffugio neu Achosi Salwch pan mae rhiant neu ofalwr yn gorliwio neu’n achosi sympomau o salwch ar bwrpas i blentyn. Gall yr ymddygiadau mewn Ffugio neu Achosi Salwch gynnwys rhiant neu ofalwr sy’n:
- Perswadio gweithwyr proffesiynol gofal iechyd fod eu plentyn yn sâl pan maent yn iach
- Gorliwio neu’n dweud celwydd am symptomau eu plentyn
- Ffugio canlyniadau profion i awgrymu bod y plentyn yn sâl, er enghraifft trwy roi glwcos mewn samplau wrin i awgrymu bod gan y plentyn glefyd siwgr
- Achosi symptomau salwch yn bwrpasol, er enghraifft drwy wenwyno eu plentyn gyda meddyginiaeth diangen neu sylweddau eraill
Mae’n fwy cyffredin i riant adrodd ar symptomau’n anghywir neu eu gorliwio yn hytrach nac i achosi salwch i blentyn, e.e. rhoi symiau mawr o halen yn eu bwyd.