Jane Ashman Logo

Neglect – 9. Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod 

Mae esgeulustod yn un o’r Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Mae babanod a phlant bach sy’n cael eu hesgeuluso yn dangos dirywiad dramatig yn eu datblygiad cyffredinol rhwng 9 i 24 mis oed. Maent hefyd yn dangos dirywiad cynyddol yn eu swyddogaeth wybyddol trwy gydol eu blynyddoedd cyn-ysgol.  

Gallai plant hŷn sy’n dioddef esgeulustod fod wedi bod yn cael eu hesgeuluso ers rhai blynyddoedd (esgeulustod cronnus). Golygai hyn nad ydynt yn aml mewn sefyllfa dda i ddelio â’r heriau niferus sy’n dod mewn plentyndod hŷn ac efallai nad ydynt yn cael cefnogaeth gan rieni i reoli’r trawsnewid hwn. Gall hyn arwain i: 

  • Iechyd meddyliol a chorfforol gwael 
  • Anawsterau gyda pherthynasoedd rhyngbersonol 
  • Ymddygiad troseddol 
  • Camddefnydd sylweddau 
  • Tueddiad uchel i ymddygiad cymryd risg 
  • Hunanladdiad 

Os oes gan blant oedolyn sydd ar gael yn emosiynol sy’n gallu eu cefnogi yna gall y deilliant yma newid. 

I ddysgu mwy am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod galwch wylio’r fideo hwn:

Template File: single.php