Jane Ashman Logo

Neglect – 8. Rhesymau am Hylendid Gwael

Isod mae rhai o’r rhesymau posibl, ond efallai eich bod chi wedi meddwl am rai eraill hefyd: 

  • Peiriant golchi wedi torri 
  • Dim arian i brynu sebon, diaroglydd, siampŵ, a.y.y.b.  
  • Boeler wedi torri 
  • Erioed wedi cael fy nangos sut neu neb wedi dweud wrthyf sut i gynnal hylendid da.  
  • Efallai ddim yn hoff o’r teimlad o gyffwrdd er mwyn ymolchi 
  • Efallai eu bod yn cael eu cam-drin ac yn meddwl os na fyddant yn ymolchi na fyddai’r camdriniwr eisiau dod yn agos atynt 
  • Efallai nad ydynt yn teimlo eu bod yn deilwng ac felly pam ddylent edrych ar ôl eu hunain 
  • Ddim yn flaenoriaeth iddynt yn y bore am eu bod yn gofalu am eraill 

Gallai fod oherwydd nifer o resymau eraill hefyd. Y prif bwynt yw ein bod yn cynnal ein chwilfrydedd proffesiynol, ble mae ymarferydd yn archwilio ac yn ceisio’n rhagweithiol i deall beth sy’n digwydd, beth sy’n digwydd o fewn teulu neu i unigolyn, yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau neu dderbyn pethau ar yr olwg gyntaf. Mae pawb sy’n gweithio gyda phlant yn cael eu cyfrif fel ymarferydd, felly mae hynny’n cynnwys pawb mewn addysg ac mewn lleoliad ysgol. 

Template File: single.php