Neglect – 6. What is affluent neglect?
Cynhyrchodd y London Grid for Learning (LGfL) flog ar esgeulustod affluent a dyma ddyfyniad ohono: Affluent Neglect (lgfl.net)
Beth yw esgeulustod affluent?
Does dim diffiniad penodol ar gyfer ‘esgeulustod affluent’ ac mae’r ymchwil yn y maes hwn yn brin. Ond mae’r term yn tynnu ein sylw i’r ffaith lai cydnabyddedig y gall plant gael eu hesgeuluso o fewn teuluoedd ble mae elfen o gyfoeth materol.
Mae’r Athro Claudia Bernard, sy’n ymchwilydd blaenllaw yn y maes hwn yn y Deyrnas Unedig yn awgrymu fod plant o deuluoedd mwy cefnog sy’n profi esgeulustod yn llai tebygol o brofi ffurfiau corfforol (er nad yw’n amhosibl) na’r canlynol:
- Datgysylltiad emosiynol
- Pwysau i lwyddo
- Defnydd cyffuriau ac alcohol (gan rieni a/neu blant)
- Cam-drin domestig
Mae plant o deuluoedd mwy cefnog yn fwy tebygol o brofi esgeulustod emosiynol, sy’n ei wneud yn anoddach i’w brofi (nid yw’n ddiriaethol nac yn gorfforol fel arfer) ac i ddangos ei effaith (yn aml, mae’r effaith i’w weld yn llesiant meddyliol plant, ac yn fwyaf cyffredin drwy eu hymddygiad ac/neu emosiynau, sy’n anodd iawn i’w priodoli i brofiadau gofal penodol).