Neglect – 4. Is-gategorïau Esgeulustod
Trawsgrifiad fideo
Rydym eisioes wedi edrych ar y diffiniad o esgeulustod, sydd yn edrych ar ddwy adran y gallwch eu gweld yna ar y bwrdd, sef yr hyn mae pobl yn ceisio ei weithio allan. A yw’n esgeulustod yntau tlodi? Oherwydd ychydig bach iawn sydd rhwng y ddau.
Ond, fel aelodau staff, nid ydym yn disgwyl i chi ddweud y gwahaniaeth. Beth rydym yn disgwyl i chi ei wneud yw i basio’r pryderon hyn ymlaen i’ch Person Dynodedig Diogelu (PDD) o fewn yr ysgol. Ac mae iddynt hwy wedyn i geisio datrys os yw hyn yn fater o dlodi, ble byddant yn dal i edrych i gefnogi’r teulu.
Byddant yn edrych ar gymorth cynnar, y Tîm o Amgylch y Teulu efallai, edrych ar asesiad yn ymwneud â pha arian sy’n dod i mewn, sut mae’n cael ei wario. Oes yna unrhyw ardaloedd y gellir eu datblygu, a oes angen iddynt edrych ar eu biliau trydan neu nwy, a allent newid eu cyflenwyr? Ac yn y blaen. Felly efallai eu bod yn dal i fod angen cefnogaeth gynnar.
Os canfyddir mai esgeulustod ydyw, yna, eto, byddai hyn yn cael ei basio ymlaen i’r gwasanaethau plant ac yn mynd drwy’r gweithdrefnau perthnasol hynny. Pan rydym yn edrych ar esgeulustod, mae’n achos mae’n rhaid i ni ei roi at ei gilydd dros gyfnod o amser, felly dyma pam mae hyd yn oed y pethau bychain hynny sy’n gwneud i chi feddwl, “Nid yw’n werth adrodd arno” neu “Dydw i ddim yn hollol sicr, allai ddim dweud 100% ei fod wedi digwydd.” Os gwelwch yn dda, os oes gennych chi unrhyw bryderon, teimlad yn y stumog, unrhyw beth, adroddwch arno i’ch PDD. Oherwydd, fel ddywedais i, wrth i’r wybodaeth ddod i mewn mae’n adeiladu’r jig-so ac wedyn yn helpu wrth i ni basio’r wybodaeth ymlaen i asiantaethau eraill.
Pan rydym yn edrych ar ymddygiadau magu plant o dan ‘esgeuluso’, mae cwpwl o is-gategorïau, a’r cyntaf o’r rhain yw ‘esgeulustod meddygol’. Felly dyma ble mae rhieni’n methu ceisio am neu’n methu darparu gofal meddygol, deintyddol neu glyw. Felly efallai bod gennych blentyn yn eich dosbarth sydd ddim yn gallu gweld y bwrdd gwyn, methu gweld eu gwaith, sydd angen mynd i weld yr optegydd er mwyn cael asesiad. Ond nid yw’r rhieni’n mynd â nhw, er eich bod chi wedi crybwyll hyn gyda nhw o leiaf unwaith neu ddwywaith. Felly os yw hynny’n digwydd, fel ddywedais i, yna mae’n amlwg mai esgeulustod yw hynny, a’r effaith yw’r rhan allweddol. Yr effaith ar y plentyn a’u gwaith ysgol. Gallai hyn arwain i darfu ar eu hymddygiad, oherwydd eu bod yn teimlo rhwystredigaeth, a allai arwain iddynt beidio bod eisiau dod i’r ysgol, a llawer o bethau eraill. Felly mae’r effaith yn bwysig iawn.
Os edrychwch chi ar y lleill. Gyda’r ‘deintyddol’, ddim yn mynd â nhw i’r deintydd, ddim yn cael eu dannedd wedi eu hasesu, os oes unrhyw ddannedd sydd angen eu tynnu, nid ydynt yn mynd â nhw yno. Ac wedyn, gyda’r ‘meddygol’, mae dau agwedd i hyn. Mae’n cynnwys apwyntiadau nad oes neb yn mynd â nhw iddynt, felly os ydynt angen gofal, wedi anafu eu hunain, wedi brifo. A oes rhywun wedi mynd â nhw i’r Adran Damweiniau ac Argyfwng i gynnal asesiad? A oes rhywun yn mynd â nhw i’r apwyntiadau meddygol rheolaidd sydd eu hangen arnynt? Ond mae hefyd yn cynnwys meddyginiaeth. Mae rhai achosion wedi bod mewn adolygiadau achosion difrifol ble nad yw plant wedi derbyn y feddyginiaeth sydd ei angen arnynt ac, o ganlyniad, mae hynny wedi arwain i farwolaeth plentyn. Mae rhai esiamplau gydag asthma ac anadlyddion asthma. Roedd yna adolygiad achos difrifol ble roedd yr anadlydd asthma wedi gorffen yn y mis Rhagfyr ac heb cael ei ailgyflenwi. Roedd y plentyn, wedyn, angen yr anadlydd yn y mis Mawrth, ond gan nad oedd anadlydd ar gael bu farw’r plentyn. Felly, os gwelwch yn dda, gwiriwch gyda’ch plant, os oes unhryw un sydd â chyflyrau meddygol, eu bod yn cael eu meddyginiaethau’n rheolaidd a’u bod wedi dweud bod ganddynt rai sbâr o fewn amgylchedd yr ysgol os oes eu hangen, megis at asthma.
Mae apwyntiadau meddygol wedi newid. Roedd yn arfer nodi eu bod “ddim wedi mynychu”, a dyma oedd y côd os byddai rhiant yn methu dod â nhw i apwyntiad. Ond, dros y blynyddoedd, mae hynny wedi newid, ac wedi newid i, “Heb ei hebrwng i apwyntiad.” Felly, eto, gallwch weld bod y pwyslais ar y dylai rhiant fod yn dod â nhw, ac y gellir ystyried hynny fel esgeulustod.
A hwn yn y fan yma, yr ‘esgeulustod maethol’, nawr rwy’n cofio edrych i mewn i adolygiad arfer plentyn oedd wedi marw, ac un o’r priff ffactorau cyfrannol bryd hynny oedd gordewdra. Ond, bryd hynny, roedd y diffiniad o ‘esgeulustod’ yn pwysleisio’n drwm ar blant nad oedd ganddynt fwyd, diffyg bwyd, y rhai hynny fyddai’n dioddef o ddiffyg maeth, y rhai hynny â phwysau rhy isel. Mae gennych Daniel Pelka oedd yn dwyn gan rai eraill yn yr ysgol er mwyn iddo gael bwyd. Dyma ble’r oedd y pwyslais yn mynd, felly roeddwn yn falch iawn i weld Llywodraeth Cymru, pan ddaethant allan gyda’r diffiniad hwn yng Ngweithdrefnau Diogelu Cymru yn 2019, yn sôn amdano fwy fel continwwm. Ydi, mae’n mynd yr holl ffordd o ‘fethiant’ i fyny i ‘fwydo anaddas, a phlant yn mynd yn ordew. Felly mae’n cynnwys y ddau, felly edrychwch am y ddwy agwedd yma os gwelwch yn dda.
Mae ‘esgeulustod goruchwyliol’ yn ymwneud â’r lefel arweiniad, goruchwyliaeth, sicrhau bod y plentyn yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed. Nawr, mae gadael plant adref yn amlwg yn un pwnc. Rwy’n gwybod bod yr NSPCC yn edrych ar hyn bob amser ac yn gyrru gwybodaeth allan cyn y gwyliau ysgol ac yn y blaen. O ran y gyfraith, does dim oed cyfreithiol sy’n nodi ei fod yn addas ar gyfer gadael plentyn adref, felly mae pobl yn tueddu i feddwl am tua 12, 13, 14, y math yma o oed. Ond does dim. Y disgwyliad yw y byddai rhieni’n cynnal rhywbeth tebyg i asesiad risg, nid oes angen iddynt ei ysgrifennu i lawr, ond maent yn ei weithredu. Am faint mae nhw’n mynd i fod i ffwrdd? Pwy sydd ar gael i edrych ar eu hôl? Beth yw gallu’r plentyn? Pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt? Oes gofyn iddynt wneud bwyd neu fyrbryd neu rhywbeth felly? Felly, yn seiliedig ar yr hyn mae’r rhiant wedi ei benderfynu, byddant wedyn yn penderfynu os ydynt am adael plentyn ai peidio. Efallai, wedyn, y byddant yn gallu cael mwy o wybodaeth ynghylch pwy, o bosibl, sy’n picio i mewn i gadw golwg arnynt, oes ganddynt ffôn symudol i gysylltu? A yw’r rhiant 5 munud i ffwrdd, neu a yw’r rhiant awr i ffwrdd yn y gwaith? Dyma’r math o bethau mae’n rhaid i ni edrych arnynt a chael y wybodaeth wrth edrych ar hynny.
Cofiaf achos y gweithiais i arno ble roedd rhiant yn rhoi eu plentyn mewn perygl oherwydd y ceffyl roedd yn ei reidio. Ac, fel un sy’n marchogaeth ceffyl fy hun wyddoch chi, roedd y rhiant yn dal i fynd ymlaen. “Maent yn dal i ddweud fy mod yn esgeuluso fy mhlentyn.” A minnau’n ateb, “Ydych, mi ydych chi, rydych yn rhoi eich plentyn mewn risg trwy eu rhoi ar gefn ceffyl.” Roedd wedi torri coes yn barod, wedi torri braich mewn cwymp arall, beth fyddai’r rhan nesaf ble byddent yn deall ei fod yn risg annerbyniol i roi eich plentyn drwyddo? Felly eto, mae angen ystyried pethau felly.
Gyda phwy mae nhw’n gadael y plentyn? Ydyn nhw’n gwybod pwy yw’r person hwnnw? A ydynt wedi gwirio’r person yna, neu a ydynt yn berson maent yn eu hadnabod ar hap? Felly, y rhain i gyd. Ac, eto, mae’n seiliedig ar y sefyllfa, oherwydd rwy’n cofio gweithiwr cymdeithasol yn dweud wrthyf mai dim ond ychydig o fagu plant yn ddiofal ydoedd, pan roedd y plentyn yn gadael ei hun yn ôl i mewn i’r tŷ am 2 o’r gloch y bore, a’r plentyn yn 10 mlwydd oed. Ar ben hynny, roeddent yn treulio eu hamser gydag un o’n achosion ecsbloetiaeth rhywiol, felly roedd yn sefyllfa hynod anodd ac roeddem, bron yn sicr, yn ei adolygu fel esgeulustod goruchwyliol.
‘Esgeulustod addysgol’. Nawr mae llawer yn meddwl mai dim ond presenoldeb yw hyn, ond nid yw hyn gywir. Mae’n fethiant i gefnogi eich plentyn hefyd. Pan rydych yn edrych ar eistedd i lawr a darllen gyda nhw, cymryd eu haddysg o ddifrif. Mae rhai pobl yn rhoi’r argraff nad ydych angen addysg, “Dwi wedi gwneud yn iawn, chefais i yr un a dwi’n rhedeg fy nghwmni fy hun.” “Tyrd ‘mlaen, ti’m angen mynd i’r ysgol, tyrd i’r gwaith hefo fi yn lle.” Mae popeth fel hyn yn dod o dan yr agwedd esgeulustod addysgol.
Yr ‘esgeulustod corfforol’ yw’r amgylchedd maent ynddo yn ogystal â’r gofal corfforol. Felly, efallai bod gennym esiamplau ble nad yw rhywun yn dangos i blant sut i edrych ar ôl eu hunain. Sut i ymolchi, gwneud yn siwr eu bod yn ymolchi a’u helpu o ran gwybod pryd i eillio, sut i eillio’n ddiogel, yn ogystal a’r amgylchedd maent ynddo adref.
A daeth yr un olaf yma i mewn yn 2019 pan ddiweddarwyd y gweithdrefnau diogelu yng Nghymru. Yn bresennol, nid yw hwn yn Lloegr, ond yng Nghymru, ac mae’n edrych ar ‘esgeulustod hunaniaeth’. Dyma ble mae’r rhiant neu’r gofalwr yn methu adnabod neu edrych ar anghenion y plentyn neu’r person ifanc, yn nhermau diwylliant, crefydd, rhyw a rhywioldeb. Nawr, efallai bod plentyn yn meddwl na fyddai eu rhiant yn gwneud, ac nad ydynt eisiau rhannu eu teimladau, eu rhywioldeb, eu safbwyntiau gyda’u rhieni am eu bod yn bryderus ynghylch yr ymateb. Ond dyma ble mae’r rhiant yn gwneud sylwadau negyddol, o bosibl, y termau maent yn eu defnyddio tuag at y plentyn, y rhan lle nad ydynt am eu cefnogi. Os mai crefydd ydyw, nad ydynt yn gadael iddynt fynd i’r eglwys neu’r synagog neu’r mosg, rhywbeth felly. Felly mae’n fater o edrych arno yn ei gyfanrwydd.