Jane Ashman Logo

Neglect – 11. Pam fyddai rhieni’n esgeuluso plentyn?

Trawsgrifiad fideo

Edrychodd Roy Jones, o’r British Association of Social Workers, ar wahanol fathau o fagu plant ble roedd esgeulustod dan sylw. Ac fe roddodd y labeli ‘gweithredol’, ‘goddefol’ ac ‘anhrefnus’ ar y rhain. 

Mae deall y rhain yn ein helpu i ddeall sut i weithio gyda’r teulu, sut i gefnogi’r teulu, pa asesiad a allai fod angen ei wneud. Felly, os gymerwn ni’r rhain yn eu tro, cymerwn y ‘goddefol’ yn gyntaf.  

Goddefol yw ble mae’r rhieni, o bosibl, ar hyn o bryd, yn methu cadw ar ben unrhyw beth. Gallai hynny fod oherwydd yr hyn sy’n digwydd yn eu bywydau, gallai fod oherwydd eu hiechyd meddwl eu hunain, ac nad ydynt yn gallu canolbwyntio ar weddill y teulu gan eu bod yn rhoi’r amser hwnnw ar gyfer eu hunain. Felly, yn gyffredinol, byddech yn gweld yma fod y teulu hwn yn ymddangos fel eu bod yn gallu cadw eu pennau uwchben y dŵr fel arfer, ond eu bod yn suddo gyda phopeth sy’n digwydd ar hyn o bryd. Teimlo bod llawer wedi ei luchio at y teulu. Gyda’r math hwn o deulu beth gallwn edrych arno yw pa un peth, pe baem i ganolbwyntio arno, a’u helpu i ddatrys, fyddai’n lleihau’r pwysau ar y teulu hwnnw ac yn eu galluogi i gael ychydig o amser i anadlu. Ac, wedyn, byddent yn gallu blaenoriaethu  a gweithio ar y meysydd eraill maent angen gweithio arnynt. Yn gyffredinol, gyda hynny, os yw’n cyrraedd ‘esgeulustod’, mae wedi mynd ar y gofrestr amddiffyn plant, ond i rai gallai fod yn Dîm o Amgylch y Teulu neu’n gynllun gofal a chefnogaeth sydd ei angen i’w helpu. Y rhan allweddol yw, beth bynnag yw’r sgaffald rydym yn ei roi yn ei le i’w cefnogi, ein bod yn eu huwchsgilio, nid dim ond eu cadw i fyny. Oherwydd unwaith rydym yn tynnu’r sgaffald hwnnw, yr hyn sy’n digwydd yw fod y teulu’n cwympo. Felly mae angen i ni sicrhau fod  beth bynnag rydyn ni’n ei wneud  yn gweithio iddynt yn y tymor hir.  

Os gymerwn i’r un ‘anhrefnus’, felly gyda’r un anhrefnus gallai hyn fod yn riant sydd naill ai’n canolbwyntio ar ei anghenion ei hun ac yn rhoi ei anghenion ei hun yn gyntaf, o flaen anghenion y plentyn. Neu eu bod yn credu’n wirioneddol eu bod yn gwneud eu gorau dros y plentyn, yn seiliedig ar y fagwraeth roeddent wedi ei dderbyn eu hunain, yn hytrach na dull mwy effeithiol o fagu plant. Efallai eu bod yn cael trafferth i osod ffiniau yn eu lle ar gyfer plant, neu efallai eu bod yn meddwl ei fod yn iawn, nad ydynt angen arferion (‘routine’), “Doedd gen i ddim, o’n i’n iawn.” Felly, gyda theulu o’r fath, byddai’r asesiad yn ei weithio allan ac yn edrych ar bethau megis cyrsiau magu plant i’w helpu i allu dweud “na” wrth blentyn, a’u helpu i ddweud, “Na, rydan ni dy angen i mewn erbyn yr amser yma,” a’r ffiniau yn eu lle o ran sut maent yn siarad gyda phobl, eu hymddygiad, yr holl agweddau o’r fath. 

Ond mae hefyd yn gweithio’r ddwy ffordd, nid y plentyn yn unig, ond sut mae’r rhiant yn gweithio gyda’r plentyn hefyd. Felly, eto, sut maent yn siarad gyda’r plentyn, sut maent yn teimlo eu bod yn cael eu caru, yn perthyn i’r teulu, ac yn y blaen. Yn gyffredinol, gyda’r rhain, efallai y byddent yn dod i mewn i’r cyfarfod, neu eich bod yn eu gweld, ac mae nhw’n orffwyllog iawn, ar ben eu tennyn bob amser, fel petai eu byd yn symud ar gyflymder cyflym iawn a’u bod yn ceisio ymdopi gyda phopeth, cadw’r platiau yna i gyd yn troi.  

Gyda’r un olaf, pan rydym yn edrych ar ‘esgeulustod gweithredol’, rydym yn edrych yma ar bŵer, a dyma beth mae nhw eisiau, pŵer a rheolaeth dros eraill. Felly maent yn cam-drin eu plentyn yn bwrpasol, neu efallai ddim ond yn rhoi eu hanghenion hwy cyn anghenion pawb arall. A gallai hynny fod wrth wario eu harian, nad ydynt yn gweld y pwynt o’i wario ar y plentyn felly maent yn ei wario ar y teledu mwyaf newydd. Maent am ei wario ar esgidiau chwaraeon, iPhone newydd, beth bynnag, yn hytrach nac ystyried bod y plentyn angen esgidiau newydd ar gyfer yr ysgol, angen trowsus newydd am eu bod wedi tyfu allan o’r hen rai, neu unrhyw beth or fath. Hefyd, efallai eu bod yn bychanu’r plentyn, ddim yn gadael iddynt fwyta, rheoli pryd maent yn cael bwyta, rheoli beth maent yn cael ei fwyta, yn rheoli beth maent yn cael ei wneud, pryd maent yn cael ei wneud. Ac nid i’r plentyn yn unig, efallai eu bod yn gwneud hyn i’w partner hefyd. Yn enwedig gyda’r datblygiadau mewn technoleg nawr, gallwch reoli’r mwyafrif o bethau gyda phlygiau, gallwch reoli’r gwres o’r tu allan i’r cartref. Does dim angen i chi fod yno. Felly byddant yn troi’r gwres i lawr nes maent yn dod adref, ac wedyn yn ei droi i fyny. Felly’r holl bethau yma, y pŵer a’r rheolaeth yna, a’r rhain yw’r pethau anoddaf i weithio gyda hwy, yn fy marn i. Oherwydd mae’n golygu deall hynny, ac efallai bod rhai rhieni ddim hyd yn oed yn gwybod eu bod yn gwneud hynny. 

Template File: single.php