Level of Need – 9. Pam darparu cymorth cynnar?
Mae llawer o resymau dros gefnogi teulu a phlentyn mor gynnar ag y gallwn. Gall cymorth cynnar amddiffyn plant rhag profi camdriniaeth, esgeulustod neu niwed oherwydd ein bod wedi adnabod dangosyddion ac wedi adrodd arnynt i’r PDD. Gall y PDD drafod gyda’r teulu wedyn a gweld pa gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Gall hyn hefyd atal y problemau rhag dwysáu. Y cynharaf y gallwn gynnig cefnogaeth i deulu a phlentyn y mwyaf tebygol fyddwn ni i gael deilliannau positif. Yn gyffredinol, byddwn yn cyrraedd y deilliannau hyn yn llawer cynt na fyddem o ddisgwyl i deulu gyrraedd pwynt argyfwng.
Os edrychwn ni ar pan mae teuluoedd yn cyrraedd pwynt argyfwng, maent, yn gyffredinol, wedi bod yn ymddwyn neu’n byw yn y modd hwnnw ers cyfnod o amser. Golygai hyn fod eu hymddygiadau wedi dod yn arferion cynhenid, sy’n llawer anoddach i’w newid a’u dad-ddysgu. Mae llawer o’r ymddygiadau sydd gennym oherwydd yr hyn rydym wedi ei brofi a ninnau’n meddwl mai’r hyn rydym wedi ei brofi wrth dyfu i fyny sy’n normal. Tueddwn i fagu mewn modd digon tebyg i’n rhieni ac nid ydym bob amser yn cwestiynu os mai dyma yw’r ffordd orau i fod yn riant. Gellir gweld hyn yn glir gyda’r ymchwil sydd wedi ei wneud o gwmpas Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
Y newyddion da yw ei fod yn bosibl i ddad-ddysgu arferion ac i ddysgu rhai newydd, ond nid yw’n hawdd. Mae ceisio dad-ddysgu rhywbeth yn golygu torri llwybrau niwral hirsefydlog ac adeiladu cysylltiadau newydd yn eu lle. Nid yw ein ymenydd yn hoff o wneud yr ymdrech ychwanegol hwn, ac felly mae’n demtasiwn i syrthio’n ôl i’r hen batrymau.
Mae ffactorau seicolegol eraill a all effeithio ar ein dad-ddysgu arferion a’i wneud yn heriol, a’r rhain yn cynnwys:
- Ofni newid — Gall camu y tu allan i’r hyn sy’n teimlo’n gyfforddus ysgogi pryder. Mae’r cyfarwydd yn teimlo’n fwy diogel, hyd yn oed os yw’n annymunol
- Ymlyniad ego — Gall cyfaddef ein bod angen newid fod yn dolc i’r ego a’r hunan-ddelwedd.
- Gogwydd cadarnhad — Rydym yn tueddu tuag at wybodaeth sy’n cadarnhau credoau presennol ac yn diystyrru tystiolaeth i’r gwrthwyneb.
- Sefydlogrwydd Functional fixedness — Pan mae rhywbeth yn gweithio’n iawn, tueddwn i wrthsefyll opsiynau gwell, “If it ain’t broke, don’t fix it.”
Bydd goresgyn y rhain yn cymryd amser ac ymdrech gan yr unigolyn a’r asiantaethau cefnogaeth sy’n gweithio gyda’r plentyn neu deulu.