Level of Need – 8. Opsiynau os yw rhiant yn gwrthod cefnogaeth
Trawsgrifiad fideo
Fel soniais i yn gynharach, mae gan pob rhiant hawliau, mae ganddynt hawliau i’w preifatrwydd, mae ganddynt hawliau i ddewis eu ffordd o fyw. Ond y cwestiwn sydd gen i i chi yw, os ydan ni’n cynnig cefnogaeth, boed hynny yn yr adran felyn neu oren, a’n bod ni’n meddwl yn wirioneddol y byddai’r gefnogaeth honno’n gallu helpu’r teulu, a’n bod ni wedi gofyn i’r rhiant a hwythau’n dweud “na, dwi ddim eisiau cefnogaeth o gwbl.”
Pa opsiynau sydd ar gael i’w defnyddio mewn addysg? Os ydych chi’n meddwl, trwy ddweud “na”, bod hynny’n symud yn syth i’r coch, sef ‘plentyn yn wynebu risg’, nid yw hynny’n digwydd os nad oes gennym bryderon gan y staff fod hwn/hon yn blentyn sy’n wynebu risg, felly mae’n annhebygol, o ganlyniad i riant yn dweud “na” yn unig, y bydd hyn yn symud i mewn i’r adran honno. Beth fyddwn ni ei angen yw i gasglu tystiolaeth. Mae angen i ni fonitro’r plentyn oherwydd, efallai, fod y rhiant wedi dweud “na” am nad ydynt wedi gweld effaith yr angen sydd gan y plentyn ar y pryd. Boed yn angen iaith a llefaredd, boed yn angen asesu y maent angen cefnogaeth ar ei gyfer, ymddygiad efallai, rheoli eu hemosiynau, unrhyw beth o’r fath, ond efallai nad yw’r rhiant yn gweld yr effaith ar eu plentyn. Felly, os edrychwn ni ar beth yw’r effaith. Os oes gennym blentyn sydd, o bosib, yn dod i’r ysgol ac nid yw eu hylendid y gorau. Efallai’r fod y plentyn yna, wedyn, yn cael eu bwlio gan blant eraill, efallai nad ydynt yn eisiau cymdeithasu gydag eraill. Mae gennym rieni’n dweud, “Paid â mynd yn agos at y plentyn yna”, yn enwedig os oes llau pen neu rhywbeth o’r fath. Mae hynny’n ynysu’r plentyn, a’r plentyn yn dechrau teimlo, “Dwi ddim eisiau mynd i’r ysgol.” Felly mae hynny’n effeithio ar y presenoldeb. Maent yn methu canolbwyntio ar eu gwaith, am eu bod wastad yn meddwl, “Beth mae pobl eraill yn ei ddweud?” Dyna’r effaith mae’n ei gael. Felly byddem yn monitro’r plentyn ac yn ysgrifennu i lawr yr hyn rydym yn adrodd arno.
Y pwynt arall yw, efallai bod y rhieni yn ymateb yn reddfol wrth ddweud, “Na, dydw i ddim eisiau unrhyw gefnogaeth, dwi ddim eisiau i’m mhlentyn gael ei labelu, dwi ddim eisiau hynny iddyn nhw.” Beth sy’n rhaid i ni ei wneud, mae’n rhaid i ni edrych ar y penderfyniad hwnnw gan y rhiant. Efallai eu bod wedi cael cynnig y gefnogaeth honno fel plentyn ac nid oedd wedi gweithio iddynt, roeddent yn ei gasáu. Mae pethau wedi newid, ac mae angen i ni gael y sgyrsiau hynny gyda’r rhiant i esbonio beth ydyw, i weithio allan beth yw eu pryderon. Fel ddywedais i’n gynharach, gyda’r adran oren, y Tîm o Amgylch y Teulu a’r Gofal a Chefnogaeth, maent wedi eu lleoli o fewn y Gwasanaethau Plant. Yn anffodus, rydym yn dal i frwydro gyda’r syniad amdan y Gwasanaethau Plant, fod rhieni’n meddwl yn awtomatig, “Gwasanaethau Plant, mae nhw’n mynd i gymryd fy mhlentyn.” A gallai hynny ddod o’r ofn sydd ganddynt. Drwy edrych ar yr hyn y maent yn ei ofni gallwn weithio gyda nhw, i helpu i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar eu cyfer i’w helpu i wneud penderfyniad gwybodus. Efallai mai’r unig beth sydd ei angen arnynt yw amser i feddwl, dywedwch wrthynt i fynd adref i feddwl. Os allwch chi, rhowch wefan, pamffled, rhif ffôn neu linell gymorth iddynt, efallai, iddynt allu cysylltu am wybodaeth bellach. Gallwch roi’r wybodaeth honno iddynt. Os na allent wneud hynny, neu eu bod yn annhebygol o wneud, efallai y bydd angen i chi roi cyngor iddynt a dweud wrthynt, “Reit, dyma faint o’r gloch mae’n agored, dyma pwy rydych chi angen siarad gyda nhw, a dyma’r rhif.” Efallai y bydd angen i chi eu helpu, efallai y bydd angen i chi ddweud, “Reit, wnai eu ffonio nhw tra rydych chi yma, iawn, ydych chi am i mi wneud hynny, a dechrau’r sgwrs? Yna gallwch siarad gyda nhw a gweld beth yw’r gefnogaeth a’r hyn sy’n cael ei gynnig.” “Gallent ateb yr holl gwestiynau rydych yn poeni amdanynt.” Dyna’r math o beth sydd ei angen i ni ei wneud.
Felly rydym yn edrych ar pam mae’r rhieni wedi dweud “na” ac yn ceisio deall a rhoi ein hunain yn eu sefyllfa nhw. Rydym wedyn yn monitro’r effaith ar y plentyn ac yn monitro’r hyn sy’n digwydd, sut mae’n eu heffeithio. A cofiwch, yn gyfannol, rydym yn edrych ar y datblygiad cymdeithasol, yn edrych ar addysg hefyd. Ac wedyn, gobeithio, y gallwn gael sgwrs arall gyda’r rhiant. Beth mae’r rhieni angen ei ddeall yw nad yw popeth yn dod i ben am eu bod wedi dweud “na” unwaith. Mae angen i ni gadw’r sianel gyfathrebu yna’n agored a’u hatgoffa’n rheolaidd, gan ddweud, “Cofiwch, os ydych chi eisiau’r gefnogaeth honno, gofynnwch ac fe wnawn ni’r roi’r atgyfeiriad yna i mewn.”