Level of Need – 6. Dangosyddion Angen
Dangosyddion Gwyrdd
Anghenion Datblygiadol
- Cyflawni’r cyfnodau allweddol
- Presesnoldeb da yn yr ysgol / coleg / hyfforddiant
- Dim rhwystrau i ddysgu
- Dilyniant wedi’i gynllunio y tu hwnt i’r oed ysgol statudol
- Staff yr ysgol a’r amgylchedd â chyfoeth o wybodaeth a dealltwriaeth broffesiynol o niwed y tu allan i’r teulu
- Mae gwybodaeth ar gael er mwyn i bobl ifanc wybod pwy all eu helpu gydag unrhyw bryderon
- Iechyd corfforol da a cherrig milltir datblygiadol sy’n briodol i’w hoedran yn cynnwys lleferydd a iaith
- Mae gan y Person Ifanc fynediad i gyngor a gwybodaeth sy’n darparu gwybodaeth am effeithiau camdrin sylweddau
- Mae gan y Person Ifanc fynediad i gyngor a gwybodaeth sy’n darparu gwybodaeth a dealltwriaeth dda o iechyd rhywiol a’r defnydd rheolaidd o ddulliau atal cenhedlu os ydynt yn actif yn rhywiol
- Iechyd meddwl da a llesiant seicolegol da
- Ymlyniadau cynnar o ansawdd da, yn hyderus mewn sefyllfaoedd cymdeithasol
- Gyda’r wybodaeth gywir a mynediad i wasanaethau cynghori sy’n hyrwyddo rhyw a pherthynasau diogel
- Mae gan y Person Ifanc fynediad i wybodaeth a chyngor yn ymwneud â sgiliau diogelwch digidol
- Teuluoedd sefydlog ble mae’r rhiant / rhieni / gofalwr / gofalwyr yn gallu diwallu anghenion y plentyn
- Yn rhan o gymuned, grŵp cyfoedion neu deulu sydd ag ymagweddau cymdeithasol cadarnhaol
- Mae gan y Person Ifanc fynediad i wybodaeth a chyngor sy’n hyrwyddo sgiliau byw’n annibynnol priodol.
Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol
- Perthynasau teuluol cefnogol
- Y plentyn yn cael ei gefnogi’n llawn yn ariannol
- Llety o ansawdd da a sefydlog
- Rhwydweithiau cymdeithasol a chyfeillion da yn bodoli
- Amgylchedd diogel a sicr
- Cyd-destunau diogel i dreulio amser ble mae gofalwyr positif a phrosesau diogelu yn eu lle
- Mynediad i weithgareddau cyson a phositif
- Rhieni’n gallu darparu’r gofal ar gyfer anghenion y plentyn
- Rhieni â dealltwriaeth o grŵp cyfoedion plentyn neu berson ifanc a’r ardal maent yn ei mynychu
- Rhieni â mynediad i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i hyrwyddo diogelwch digidol o fewn y cartref
- Rhieni’n darparu magwraeth diogel a gofalgar
- Rhieni’n darparu arweiniad a ffiniau priodol i helpu’r plentyn i ddatblygu gwerthoedd addas
Dangosyddion Melyn
Anghenion Datblygiadol
- Triwantiaeth neu ddiffyg presenoldeb achlysurol
- Anawsterau iaith a chyfathrebu wedi’u hadnabod
- Llai o fynediad i lyfrau, tegannau neu ddeunyddiau addysgiadol
- Ychydig neu ddim cymwysterau
- NEET
- Yn araf yn cyrraedd cerrig milltir datblygiadol
- Yn methu imiwneiddiadau neu wiriadau
- Mân-broblemau iechyd a ellir eu cynnal mewn ysgol prif lif
- Gwrthod / osgoi cofrestru gyda gwasanaethau gofal iechyd (e.e. bydwraig, ymwelydd iechyd) yn cynnwys trefnu apwyntiadau amserol ar gyfer beichiogrwydd (16 wythnos) ac wedi beichiogrwydd
- Materion iechyd meddwl neu emosiynol lefel isel sydd angen ymyrraeth
- Ymddygiad ac agweddau cadarnhaol tuag at droseddu
- Dod i sylw’r heddlu o ganlyniad i droseddu ar lefel isel
- Camddefnydd sylweddau ar lefel isel (yn bresennol neu’n hanesyddol)
- Hunan barch isel
- Dangos arwyddion o’r camau cyntaf o feithrin perthynas amhriodol tuag at safbwyntiau eithafol
- Person ifanc yn aml yn cyrraedd adref yn hwyr wedi cyrffyw
- Yn feichiog yn 16 mlwydd oed neu is
- Diffyg ymddygiad sy’n briodol i’w hoedran a sgiliau byw’n annibynnol sy’n eu gwneud yn fwy agored i niwed
Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol
- Mae gan y rhieni / gofalwyr anawsterau yn eu perthynas a allai effeithio ar y plentyn
- Rhieni’n gofyn am gyngor i reoli ymddygiad eu plentyn
- Plant yn cael eu heffeithio gan berthynasau teuluol anodd neu fwlio
- Gor-boblogaeth
- Teuluoedd yn cael eu heffeithio gan incwm isel, dyled neu ddiweithdra
- Cyfleusterau annigonol i ddiwallu anghenion e.e. materion cludiant neu fynediad
- Y teulu angen cyngor yn ymwneud â’u cau allan yn gymdeithasol / gwahaniaethu / troseddau casineb
- Yn cymysgu gyda chyfoedion sy’n weithredol yn wrthgymdeithasol neu’n droseddol
- Cyfyngder mynediad i gyngor, gwybodaeth a gwasanaethau atal cenhedlu a iechyd rhywiol
- Treulio amser mewn lle ble mae pobl ifanc wedi profi niwed y tu allan i’r teulu ble nad oes llawer o allu gwarcheidiaeth
- Magwraeth yn anghyson, ond datblygiad heb ei andwyo’n sylweddol
- Rhieni ifanc iawn a dibrofiad, ble nad yw eu hanghenion sylfaenol yn cael eu diwallu (ar y cŷd â dangosyddion eraill)
- Rhieni’n ymddangos i fod â diffyg cariad, ymgysylltiad neu fondio (yn cynnwys yn ystod beichiogrwydd)
- Rhieni sydd â phrofiad o ‘ofal’
- Diffyg ymateb i bryderon a godir yn ymwneud â’r plentyn
Dangosyddion Oren
Anghenion Datblygiadol
- Gwaharddiadau tymor byr rheolaidd neu risg o waharddiad parhaol, triwantiaeth parhaus
- Dim mynediad i lyfrau, tegannau na deunyddiau addysgiadol
- Anghenion dysgu ychwanegol sydd angen cefnogaeth arbenigol i’w cynnal mewn lleoliad cymuned prif lif
- Datblygiad corfforol ac emosiynol yn effeithio ar lesiant (yn hytrach na diogelwch)
- Problemau iechyd cronig / cylchol
- Methu apwyntiadau arferol / anarferol
- Mân-anafiadau wedi digwydd sy’n gyson â thrais y tu mewn neu y tu allan i’r cartref
- Gofalwyr gyda salwch cronig neu derfynol sy’n effeithio ar blentyn / person ifanc neu feichiogrwydd
- O dan 18 oed ac yn feichiog ble nad oes rhwydwaith cefnogaeth wedi’i adnabod
- Dod i sylw’r heddlu’n rheolaidd ond yr heddlu ddim yn gweithredu
- Eu harestio am y tro cyntaf, mynychu’r biwro, mynediad i’r system cyfiawnder troseddol am y tro cyntaf
- Tystiolaeth o ddefnydd cyffuriau rheolaidd / aml gan riant neu blentyn sy’n effeithio ar lesiant eu plentyn
- Tystiolaeth o rieni’n ymddieithrio o gefnogaeth a bod effaith negyddol ar lesiant y plentyn
- Os oes gan berson ifanc neu riant / gofalwr anhawster iechyd meddwl sy’n effeithio ar eu gallu i berfformio tasgau o ddydd i ddydd, gan effeithio ar lesiant yn hytrach na diogelwch
- Hunan-barch isel sylweddol (rhiant neu blentyn) sy’n effeithio ar lesiant y plentyn
- Dioddefwr trosedd yn cynnwys gwahaniaethu sy’n effeithio ar lesiant y plentyn
- Ysbeidiau ar goll, wedi eu hadrodd neu heb eu hadrodd i’r Heddlu, ble mae’r person ifanc neu blentyn wedi bod allan wedi 12pm neu dros nos
- Defnydd sylweddau sy’n effeithio ar eu bywyd o ddydd i ddydd a’u hiechyd
- Ymddygiad anaddas / sy’n niweidiol yn rhywiol yn cael ei arddangos gan berson ifanc
- Yn feichiog yn 16 oed neu’n iau, a does dim cefnogaeth deuluol ehangach ac/neu ddiffyg ymgysylltiad gyda’r gwasanaethau iechyd
- Diffyg ymddygiad sy’n briodol i’w hoed a sgiliau byw’n annibynnol, sy’n debygol o effeithio ar ddatblygiad eu llesiant
Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol
- Tystiolaeth bresennol a chylchol o drais yn y cartref
- Risg o berthynas yn chwalu gyda rhiant / gofalwr a’r plentyn
- Gofalwyr ifanc ble mae tystiolaeth o effaith ar eu llesiant
- Plant ble mae’r naill riant neu’r llall yn y carchar, ble mae tystiolaeth o effaith ar eu llesiant
- Plant sydd yn or-gyfarwydd ac heb ymlyniad i’r prif roddwr gofal
- Plentyn yn arddangos ymddygiadau sy’n niwediol yn rhywiol o ran eu hunain neu eraill
- Plentyn sy’n arddangos ymddygiadau cydlynol a rheoli sy’n achosi niwed i eraill
- Gor-boblogaeth difrifol, llety dros dro, risg o ddigartrefedd, tlodi’n effeithio ar lesiant, pobl ifanc mewn risg o ddigartrefedd oherwydd chwalfa deuluol
- Teulu angen gwasanaethau cefnogaeth o ganlyniad i eithrio cymdeithasol
- Plentyn yn profi meithrin perthynas amhriodol i bwrpas ecsbloetiaeth ar-lein neu wyneb yn wyneb
- Plentyn yn rhan o un neu fwy o ddigwyddiadau o drais ieuenctid difrifol
- Gofal corfforol neu oruchwyliaeth plentyn yn effeithio ar eu llesiant (yn hytrach na diogelwch)
- Anabledd dysgu rhiant, camddefnydd sylweddau gan riant neu iechyd meddwl yn effeithio ar allu rhiant i ddiwallu anghenion y plentyn
- Rhieni’n beio’r plentyn am niwed maent wedi ei brofi y tu allan i’r cartref teuluol
- Camdrin yn y cartref, ansefydlogrwydd neu drais o fewn y cartref sy’n effeithio ar iechyd a datblygiad y plentyn / plentyn heb ei eni
- Plentyn / heb ei eni yn byw mewn cymunedau gyda gwerthoedd niweidiol posibl megis Trais Seiliedig ar Anrhydedd, FGM ayyb, Cynhesrwydd a Sefydlogrwydd Emosiynol
- Magwraeth anghyson yn effeithio ar lesiant y plentyn
- Anallu rhieni i fod yn gariadus ac yn astud ac mae problemau ymlyniad (yn cynnwys yn ystod beichiogrwydd), Arweiniad ar Ffiniau ac Ysgogiad
- Rhiant yn rhoi ffiniau neu ymatebion anghyson, sy’n effeithio ar lesiant y plentyn
Dangosyddion Coch
Anghenion Datblygiadol
- Rhieni ddim yn cefnogi neu annog mynediad i unrhyw wasanaethau addysg neu iechyd sy’n arwain at amharu ar ddatblygiad corfforol ac emosiynol y plentyn / person ifanc
- Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) difrifol plentyn ble mae pryderon diogelu, effaith negyddol ar fywyd teuluol a risg o chwalfa deuluol
- Anawsterau iechyd corfforol ac emosiynol a allai effeithio ar ddiogelwch y teulu
- Amheuaeth o Anaf nad yw’n Ddamweiniol neu dim esboniad / esboniad anghyson am gleisio mewn babanod di-symudol
- Camddefnydd cyffuriau / alcohol anhrefnus gan rieni gydag effaith gronig ar iechyd a llesiant plant, pobl ifanc a babanod sydd heb eu geni
- Beichiogrwydd sy’n cael ei guddio neu ei wadu
- Ymddygiad sy’n arwain tuag at risg difrifol iddynt eu hunain / plentyn ac eraill
- Materion iechyd meddwl parhaol sy’n peryglu diogelwch y plentyn
- Ecsbloetiaeth wedi ei adnabod yn cynnwys ‘CCE’, ‘CSE’, caethwasiaeth fodern, radicaleiddio a masnachu pobl
- Rhiant yn eu harddegau dan 16 ble nad oes rhwydwaith cefnogaeth wedi ei adnabod
- Ysbeidiau o fod ar goll sy’n achosi pryder fel yr amlinellir yn Arweiniad Ymarfer Cymru Gyfan ar gyfer diogelu plant sy’n mynd ar goll o’r cartrefl neu o ofal
- Pobl ifanc y mae eu defnydd o sylweddau yn peryglu eu diogelwch a’u hiechyd
- Datguddiad o niwed sylweddol gan blentyn neu berson ifanc sydd wedi ei achosi gan ac/neu wedi cymryd lle y tu allan i’r cartref teuluol
- Tystiolaeth o gamdrin corfforol / camdrin rhywiol / camdrin emosiynol / camdrin ariannol / esgelustod yn cynnwys gorfodaeth o fewn y gymuned, y tu allan i’r cartref teuluol neu fwy nac un person
- Pobl ifanc yn cael eu targedu i bwrpas ecsbloetiaeth mewn lleoliad neu o fewn grŵp
- Un neu fwy arestiad yn ymwneud ag ecsbloetiaeth troseddol o fewn grŵp cyfoedion, cymuned, neu ddarpariaeth addysg, h.y. pobl ifanc yn cael eu canfod gyda swm sylweddol o gyffuriau
- Un neu ddau fynediad i’r Ysbyty oherwydd camdrin cyfoedion ar gyfoedion neu drais ieuenctid, h.y. anaf yn ymwneud a chyllell
- Patrwm o gamddefnydd sylweddau sy’n achosi pryder ac yn peryglu eu diogelwch
- Un plentyn / person ifanc neu fwy o fewn grŵp cyfoedion yn cael eu meithrin ar gyfer perthynas amhriodol i mewn i eithafiaeth dreisgar
- Un neu fwy person ifanc mewn cyd-destun sydd wedi bod yn ddioddefwr neu droseddwr trosedd rhywiol / ymosodiad rhywiol grŵp
Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol
- Rhieni’n methu gofalu’n ddiogel am y plentyn
- Wedi’u maethu’n breifat (gofal gan rhywun sydd ddim yn berthynas agos (nain / taid, brawd / chwaer, modryb / ewythr) am fwy na 28 diwrnod yn olynol)
- Plant sydd angen gofalu amdanynt gan yr awdurdod lleol (nail ai drwy drefniant gwirfoddol neu drwy orchymyn cyfreithiol) yn dilyn asesiad gan weithiwr cymdeithasol
- Ble mae pryderon ynghylch tebygolrwydd ymddygiad sy’n niweidiol yn ddiwylliannol (‘FGM’, trais ar sail anrhydedd)
- Dim cartref sefydlog neu’n ddigartref
- Teulu’n byw mewn tlodi eithafol sy’n effeithio’n andwyol ar ddiogelwch, iechyd a datblygiad
- Amgylchedd yn y cartref sy’n rhoi plentyn neu berson ifanc mewn risg o niwed
- Plentyn neu deulu angen eu hamddiffyn ar unwaith oherwydd bygythiad yn y gymuned / ecsbloetiaeth / aflonyddu / gwahaniaethu
- Datgeliad o niwed sylweddol gan blentyn neu berson ifanc sydd wedi ei achosi gan ac / neu wedi cymryd lle y tu allan i’r cartref teuluol
- Mae nifer cyfyngedig iawn neu dim oedolion positif diogel yn y cyd-destun
- Anghenion sylfaenol y plentyn ddim yn cael eu diwallu
- Rhieni’n ymwybodol ac yn ymddangos i fod yn cefnogi neu’n hwyluso niwed y tu allan i’r cartref
- Rhieni ifanc iawn a dibrofiad ble nad yw eu hanghenion sylfaenol yn cael eu diwallu (ar y cŷd â dangosyddion eraill)
- Plentyn yn cymryd rhan mewn / yn ddioddefwr gweithgaredd troseddol, sy’n eu rhoi hwy neu eraill (yn cynnwys babanod heb eu geni) mewn risg uchel o niwed
- Camdrin yn y cartref ac/neu drais o fewn y teulu sy’n dechrau cael effaith andwyol sylweddol ar y plentyn / plentyn heb ei eni
- Anghenion emosiynol plentyn ddim yn cael eu cydnabod neu dim ymateb iddynt
- Anallu rhieni i fod yn gariadus neu’n astud ac mae problemau ymlyniad (yn cynnwys yn ystod beichiogrwydd)
- Person o fewn y cartref wedi eu hadnabod fel bod yn peri risg i blant neu fabanod heb eu geni
- Mae’r plentyn yn anniogel o ganlyniad i ddiffyg ffiniau ac/neu ysgogiad sy’n effeithio ar eu datblygiad
- Pobl ifanc yn cael eu targedu dro ar ôl tro a’u hecsbloetio o fewn ardal benodol
- Pryderon difrifol am bobl ifanc yn agored i oedolion sy’n peri risg sylweddol o niwed yn yr ardal
- Pryderon ynghylch trais ieuenctid difrifol mewn ardal neu o fewn amgylchedd ysgol
- Oedolion yn y gymuned yn weithredol yn ecsbloetio un neu fwy o bobl ifanc
- Oedolion yn yr ardal yn cyflenwi sylweddau i blant neu bobl ifanc
- Oedolion yn hwyluso neu’n cefnogi gweithgaredd niweidiol cyfoedion – h.y. oedolyn yn caniatáu ecsbloetiaeth rhywiol person ifanc o fewn eu cartref