Jane Ashman Logo

Level of Need – 5. Dangosyddion y lefelau angen

Ysgrifennwch i lawr y dangosyddion posibl fyddai’n dangos i ni fod y plentyn yn yr adran werdd ac ddim angen ymyrraeth na chefnogaeth. Ystyriwch eich atebion o dan y penawdau a ganlyn:
Anghenion Datblygiadol (Dysgu/Addysg, Iechyd, Cymdeithasol, Emosiynol, Ymddygiadol, Hunaniaeth, Hunan-Ofal ac Annibyniaeth). Byddai esiamplau’n cynnwys dim rhwystrau i ddysgu, iechyd meddwl da.
Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol Byddai esiamplau’n cynnwys y plentyn yn cael eu cefnogi’n llawn yn ariannol, rhieni’n gallu darparu gofal ar gyfer anghenion y plentyn.

Ar gyfer y 3 adran nesaf o’r Melyn (Ychwanegol), Oren (Dwys), a Choch (Arbenigol), ystyriwch pa ddangosyddion y gallech eu gweld neu eu clywed fyddai’n gwneud i chi feddwl bod plentyn neu deulu angen ymyrraeth a chefnogaeth ar y lefel honno. Ar gyfer yr adran Goch, meddyliwch am niwed o fewn y teulu (camdrin o’r tu mewn i’r teulu) ac o’r tu allan i’r teulu (camdrin o’r tu allan i’r cartref). Ystyriwch eich atebion o dan y penawdau a ganlyn:

Anghenion Datblygiadol (Dysgu/Addysg, Iechyd, Cymdeithasol, Emosiynol, Ymddygiadol, Hunaniaeth, Hunan-Ofal ac Annibyniaeth)

Ychwanegol (melyn), er enghraifft, yn araf yn cyrraedd cerrig milltir datblygiadol, Dwys (oren) yn aml gyda gwaharddiadau tymor byr, ac Arbenigol (coch) yn dioddef materion iechyd meddwl sy’n peryglu diogelwch y plentyn.

Ffactorau Teuluol ac Amgylcheddol (yn cynnwys rhieni a gofalwyr)

Ychwanegol (melyn) y cartref yn orboblog, Dwys (oren) gofal corfforol neu oruchwyliaeth y plentyn yn effeithio ar eu llesiant, a rheini Arbenigol (coch) yn methu gofalu am y plentyn yn ddiogel.

Template File: single.php