Jane Ashman Logo

Level of Need – 4. Explanation of Levels

Trawsgrifiad Fideo

Fel y gwelwch, yn y diagram ‘Lefel yr Angen’ sydd o’ch blaen, mae gennym wahanol adrannau. Dechreuwn gyda’r adran werdd, sef ‘Cyffredinol’. Nawr, beth mae hwn yn ei ddweud, yn syml, yw bod llawer o asiantaethau ar gael i bob person sydd eu hangen. Felly, mae addysg yn un. Er fod gan rieni yr hawl i ddewis os ydynt yn dewis dysgu eu plentyn yn y cartref. Mae pethau eraill, yn cynnwys yr heddlu, os oes argyfwng gallwn gysylltu gyda nhw. Os, gyda’n hiechyd, gallwn fynd i’r fferyllydd a chael cyngor ganddynt hwy. Gallem fynd i weld y meddyg teulu neu, os fyddai’n fwy difrifol na hynny, gallwn fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Ond maent ar gael i ni i gyd pan rydym eu hangen.

Wrth i ni symud ymlaen i’r adran felyn, yr adran ‘Ychwanegol’ yma ar y bwrdd, yna rydym yn edrych ar yr angen ychwanegol y byddai gan rhywun. Felly, os ydych chi’n fy ngweld i, yn dibynnu ar pa mor fawr yw eich sgrîn, byddwch yn sylwi fod gen i sbectol. Felly, mae gen i angen i fynd i weld optegydd. Af i weld yr optegydd, byddant yn asesu fy llygaid, yn gweithio allan os yw fy mhresgripsiwn angen ei newid, a dyna ni. Maent yn asiantaeth yn y fan yna sy’n fy helpu. Efallai bod gen i angen arall, fel sydd gen i gydag asthma, a byddaf yn mynd i weld fy nyrs asthma ac, eto, bydd yn gweithio allan beth sydd angen ei wneud gyda fy mhresgripsiwn. Ar hyn o bryd, nid oes angen i fy nyrs asthma siarad gyda fy optegydd oherwydd nad ydynt yn poeni amdanaf, nid yw fel fy mod i angen mecanwaith cefnogaeth aml-asiantaeth. Mae pethau eraill o fewn addysg y gellid eu cynnwys fel ‘Ychwanegol’, yn cynnwys pethau fel cefnogaeth ymddygiad, os yw Saesneg yn ail iaith, efallai bod gwasanaethau cwnsela mae’r plant yn cael mynediad iddynt, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion, therapyddion lleferydd a iaith, seicolegwyr addysg ar gyfer asesiad. Efallai fod ganddynt nyrs clefyd siwgr, asthma fel ddywedon ni, unrhyw beth fel hynny. Ond asiantaethau unigol yw’r rhain. Gallech gael gwahanol asiantaethau’n gweithio gyda chi, ond ddim gydag ymagwedd aml-asiantaeth, mae’n ymagwedd asiantaeth unigol, gan nad ydym yn pryderu am yr unigolyn.

Pan symudwn ni ymlaen i’r adran oren yn y fan yma, ar y pwynt yma rydym yn pryderu am yr unigolyn, y plentyn, yr oedolyn, y teulu. A beth sy’n digwydd yn yr adran oren yw ein bod yn cael cymorth gan Cymorth Cynnar, y Tîm o Amgylch y Teulu o bosibl, neu gefnogaeth i rieni. Dyma’r prif rai yn y fan yma. Mae’r rhain i gyd yn cael eu cynnwys o fewn y Gwasanaethau Plant fel arfer, ac yn dod o dan wahanol enwau ar gyfer gwahanol awdurdodau. Ac mae’n werth gwirio i weld beth, yn eich ardal chi, sy’n darparu’r Cymorth Cynnar / Cefnogaeth yna. Y gwahaniaeth rhwng melyn ac oren yw’r rhan yna, rwan, bod angen i’r asiantaethau weithio gyda’i gilydd. A phan rydym yn gweithio gyda’n gilydd, rydym angen gweithio gyda’n gilydd tuag at ymdrech ar y cyd, nodau a rennir. Ar gyfer beth yn union mae’r teulu angen cefnogaeth, sut allwn ni eu cefnogi gyda’r hyn mae’n nhw eisiau ac i’w gyflawni? A’r holl syniad yw mai unwaith rydym wedi darparu’r gefnogaeth honno y gallwn wedyn ei dynnu oddi yno ac y bydd y teulu’n ddigon cryf eu hunain. Os allwn ni ymyrryd mor fuan â phosibl (gwnawn siarad am hyn ychydig yn nes ymlaen yn y modiwl), tueddwn i gael gwell canlyniadau na fyddwn o ddisgwyl ac ymyrryd ar y funud olaf, yn gyffredinol, pan mae’n dod i’r adran goch.

Eto, mae’r Tîm o Amgylch y Teulu yn llai ymwthiol na Gofal a Chefnogaeth. Mae Gofal a Chefnogaeth yn becyn a adnabyddir gan y Gwasanaethau Plant ac mae’n golygu mwy o gyfranogiad gan weithiwr cymdeithasol. Esiampl o hyn fyddai fod un person o fewn y teulu wedi colli eu swydd yn ddiweddar, felly maent yn cael anawsterau ariannol, yn cael problemau’n bwydo’r teulu. Efallai eu bod yn chwilio am gefnogaeth o fanciau bwyd, banciau gwisg ysgol (i helpu gyda dillad), ac yn y blaen. Efallai eu bod angen cymorth i benderfynu sut i gael mynediad i unrhyw fudd-daliadau maent yn gymwys i’w derbyn, ond ddim yn sicr sut i gael mynediad iddynt. Ohewrydd y diffyg arian, gallai fod yn fater tai, yn poeni am dalu’r rhent ac yn pryderu eu bod am gael eu troi allan o’u cartref. Gyda hynny, efallai bod problem presenoldeb. Oherwydd, yn flaenorol, arferai’r rhieni fynd â nhw i’r ysgol yn y car, neu’n talu am daith bws i’r plentyn yna fynychu. Felly, gallwn ddechrau yn y fan yna, fod yna fwy nac un peth yn mynd ymlaen yn y teulu. Efallai bod mater iechyd meddwl neu gamddefnydd sylweddau yn y fan yna hefyd. A’r hyn yr oedd adolygiadau arfer plant, ac adolygiadau achosion difrifol cyn hynny, yn ei ddweud wrthym yw os byddwn yn gweithio yn ein seilo ein hunain doedd dim byd yn gwella i’r teulu, oherwydd ein bod i gyd yn brwydro yn erbyn ein gilydd, a theuluoedd yn gorfod ail-adrodd pethau nifer o weithiau. Felly, nid oeddent yn ymgysylltu gydag asiantaethau, ond os ydym yn gweithio gydag ymagwedd aml-asiantaeth gallwn i gyd glywed pethau ar yr un pryd yn y cyfarfodydd yr ydym yn eu cael ac wedyn gweithio gyda’r teulu i wella pethau.

Y brif adran, ble mae’n pasio i mewn i’r adran goch, dyma, os ydych chi wedi gwneud y modiwl ‘Deddfau ac Arweiniad’, eich plentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg, ac hefyd eich plentyn sy’n derbyn gofal. Nawr, eich diffiniad o blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg yw bod ganddynt anghenion am Ofal a Chefnogaeth ac eu bod yn wynebu risg neu’n profi camdriniaeth. I oedolyn, oherwydd y risg neu’r anghenion hynny, ni allent amddiffyn eu hunain. Nodwch y newid yn y derminoleg gyda’r plentyn mewn gofal. Yn flaenorol, yn y Saesneg, y term oedd ‘looked after child’. Ond yr adborth rydym wedi ei gael gan blant oedd â phrofiad byw o hyn oedd nad oeddent yn hoff o’r term. Dau reswm, un oedd yr acronym, sef ‘LAC’, ac eto roedd yn teimlo fel label. Ac wedyn, yr ail beth yw ein bod yn rhoi’r plentyn yn gyntaf rwan. ‘Child that’s looked after’ yn hytrach na ‘looked after child’ yn y Saesneg. Y prif wahaniaeth rhwng y ddau yw’r cydsyniad. Mae gan rieni hawliau, fel rydych wedi ei ddarllen, gyda hawliau dynol, ac mae ganddynt yr hawl i ddewis. Gyda’r oren a’r melyn, os ydym eisiau gwneud atgyfeiriad ar gyfer cefnogaeth, mae’n rhaid gwneud hynny gyda chydsyniad y rhieni. Mae gwahaniaethau rhwng asiantaethau, bydd rhai eisiau llofnod go iawn, tra bydd eraill yn hapus os ydych wedi cael trafodaeth. Gwiriwch gyda’r asiantaethau i weld beth sydd eu hangen arnynt. Gyda’r adran goch, yna mae’n wahanol. Beth rydym am ei gael yw i bobl gael trafodaeth gyda’r teulu oherwydd, eto, rydym yn bod yn agored ac yn onest, oni bai ei fod yn rhoi’r plentyn mewn perygl, ei fod yn rhoi aelod o’r staff mewn perygl, os oes unrhyw bosibilrwydd o drais ac ymddygiad ymosodol yno, ac hefyd os oes posibilrwydd o ddinistrio tystiolaeth. Un newydd ddaeth i mewn yng Nghymru yw ‘Cymhwysedd Gillick’ ac fe siaradwn am y rhesymau hyn mewn modiwl arall.

Template File: single.php