Jane Ashman Logo

Level of Need – 10. Cyd-gynhyrchu ymyraethau a chefnogaeth

Mae’n hanfodol fod y plentyn a’r teulu’n cymryd rhan weithredol mewn penderfynu ar y ffordd orau i ddiwallu eu hanghenion.

Mae’n rhaid gweld a gwrando ar y plentyn, gan ystyried eu dymuniadau a’u teimladau, beth bynnag yw eu dull cyfathrebu. Dylid ymgysylltu gydag a gwrando ar yr hyn sydd gan blant a phobl ifanc i’w ddweud am yr hyn sy’n digwydd iddynt fod yn gonglfaen i unrhyw ymyrraeth a chefnogaeth effeithiol.

Mae ffurfiau gwahanol o ymyrraethau a chefnogaeth:

  • Gwybodaeth, er enghraifft ar ddatblygiad plant, cyfathrebu gyda babanod ifanc;
  • Cyngor cyffredinol ac/neu benodol er enghraifft ar wlychu’r gwely, arferion amser gwely
  • Cymorth er enghraifft rhaglenni cefnogaeth sy’n ymweld â’r cartref ar gyfer teuluoedd tueddol, rhaglenni yn yr ysgol ar ddiogelwch ar y wê, rhaglenni mentora ar gyfer pobl ifanc sy’n arddangos ymddygiadau cymryd risgiau neu heriol.

Wrth benderfynu ar yr ymyrraethau mwyaf priodol, dylid ystyried:

  • ymagwedd gyfannol;
  • cefnogi a gweithio gyda’r teulu fel partneriaid cyfartal i gynllunio a darparu’r ymyrraeth/au
  • grymuso’r teulu gan ystyried sut y gallent gadw rheolaeth dros eu bywydau pob dydd a chyflawni’r hyn sy’n bwysig iddynt hwy
  • cynhyrchu datrysiadau arloesol, er enghraifft drwy rwydweithiau a chymunedau lleol
  • ymyrraethau amserol â ddarperir gan y bobl cywir, ar yr adeg cywir ac yn y lle cywir
  • dewis ystod amrywiol o wasanaethau sy’n ystyried anghenion aelodau unigol y teulu, er engrhaifft rhaglenni magu plant a mentora ar gyfer person ifanc
  • cydnabod bod angen i ymyrraethau fod yn hyblyg ac adnabod anghenion ac amgylchiadau unigol teulu
  • anghenion penodol aelodau’r teulu, er enghraifft oedran a cham datblygiad, anabledd, cyfathrebu
  • dulliau ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion newydd neu rai sy’n dod i’r amlwg
  • cydberchnogaeth a chyfraniadau gweithredol gan yr holl ymarferwyr sy’n ymwneud â’r plentyn a’r teulu

Template File: single.php