Laws and Guidance – 6. Arweiniad Arall
Mae nifer o ganllawiau eraill y gallech fod wedi eu rhestru sy’n berthnasol i ardaloedd penodol o fewn Diogelu, ac mae’r rhain yn cynnwys (er nad yw hon yn restr drwyadl):
Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2023
Mae hon yn cwmpasu radicaleiddio ac eithafiaeth, sy’n datgan fod yn rhaid i’r holl staff mewn ysgol fod wedi eu hyfforddi mewn Prevent ac hefyd y dylai’r holl staff dynodedig fod wedi eu hyfforddi mewn adrodd i ‘Channel Panels’ a ‘Channel Panel’ neu ‘Prevent Multi-Agency Panel’ (PMAP). Mae’n datgan hefyd nad oes angen i ysgol fod â pholisi ar wahân ac y dylid cynnwys yr ardal yma ym Mholisi Diogelu’r Ysgol.
Cododd Deddf Priodas a Phartneriaethau Sifil (isafswm Oedran) 2022
Yr oed ar gyfer pob priodas a phartneriaeth sifil yng Nghymru a Lloegr i 18 oed i ddiogelu plant rhag priodasau gorfodol. Yn flaenorol, roedd rhai 16 ac 17 mlwydd oed yn cael priodi gyda chaniatâd rhieni. Newidiwyd hyn oherwydd pryderon ynghylch priodasau gorfodol, ble’r oedd y rhieni yn rhoi caniatâd ond nid oedd y plentyn yn gwneud hynny.
Daeth y Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020
Yn weithredol yn 2022. Mae hyn yn ei wneud yn anghyfreithlon i unrhyw un yng Nghymru i slapio plentyn fel ffurff o gosbi. Mae hyn yn cael ei gategoreiddio fel ymosodiad yng Nghymru erbyn hyn.
Adolygiad Estyn i mewn i Ymosodiad ac Aflonyddu Rhywiol mewn Ysgolion 2021.
Edrychodd yr adolygiad hwn ar Ymddygiad Rhywiol Niweidiol a’i gyffredinolrwydd ymhlith plant. Roedd nifer o wersi i ysgolion yn ymwneud â’r agwedd ei fod yn digwydd yma, ac nad yw plant yn adrodd amdano oherwydd eu bod yn teimlo ei fod yn ymddygiad normal ac na fyddai unrhyw beth yn cael ei wneud amdano, felly does dim pwynt adrodd arno.
Canllawiau ar Weithdrefnau Disgyblu a Diswyddo Staff Ysgol 2020
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer ysgolion a llywodraethwyr ar ddelio gyda materion disgyblu staff a’r weithdrefn i’w dilyn o ddod yn ymwybodol o bryder, i fynd drwy’r paneli, i wneud y perderfyniad terfynol.
Mae Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
Yn datgan fod yn rhaid i holl staff ysgol fod wedi eu hyfforddi i Lefel 1 mewn Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, ac y dylai’r ysgol fod â staff sydd wedi eu hyfforddi i Lefel 2, sef yr hyfforddiant Gofyn a Gweithredu.
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005
Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 wedi ei dylunio i amddiffyn a grymuso unigolion megis oedolion sy’n wynebu risg a allai fod â diffyg yn eu galluedd meddyliol i wneud eu penderfyniadau eu hunain yn ymwneud â gofal ac amddiffyniad. Mae’r Ddeddf yn cydnabod y gallai unigolyn fod â’r galluedd meddyliol i wneud rhai penderfyniadau ond heb y galluedd i wneud rhai eraill. Hefyd, efallai y bydd person heb y galluedd i wneud penderfyniad penodol ar un adeg ond yn gallu gwneud yr un penderfyniad yn ddiweddarach. Mae’r Ddeddf yn cymryd bod gan berson y galluedd i wneud penderfyniad eu hunain, oni bai y profir yn wahanol. Mae’n berthnasol i bobl dros 16 oed.
Mae Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (‘UNCRC’)
Yn gytundeb rhyngwladol sy’n gosod allan hawliau’r plant. Yn 2004, mabwysiadwyd yr ‘UNCRC’ yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru fel y sylfaen ar gyfer ffurfio polisïau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc. Mae hawliau plant wedi eu hymgorffori yng nghyfraith Cymru o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod 2003
Mae’n orfodol i unrhyw staff mewn Addysg i adrodd ar unrhyw bryderon sydd ganddynt y gallai rhywun dan 18 oed fod yn dioddef o Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod neu allai ddioddef o Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod. Mae’n rhaid adrodd ar hyn yn syth i’r PDD neu’r heddlu. Mae’r ddeddf yn cwmpasu cynnal Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod yng Nghymru a Lloegr, cynorthwyo merch i gynnal Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod arni hi ei hun ac i helpu unrhyw berson sydd ddim o’r Deyrnas Unedig i gynnal Anffurfio Organau Cenhedlu Menywod y tu allan i’r Deyrnas Unedig ar ddinesydd y Deyrnas Unedig neu un o drigolion y Deyrnas Unedig.
Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn
Cafodd Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn eu mabwysiadu gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (Penderfyniad 46/91) ar 16 Rhagfyr 1991. Cafodd llywodraethau eu hannog i’w hymgorffori yn eu rhaglenni cenedlaethol pryd bynnag y byddai modd. Mae yna ddeunaw o egwyddorion, a all gael eu grwpio o dan bum thema: annibyniaeth, cyfranogi, gofal, hunangyflawniad ac urddas.
Daeth Confensiwn Ewropeaidd Hawliau Dynol
Daeth y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol i rym ym 1953, ac mae wedi ei ddiweddaru’n gyson ers hynny. Mae’n gytundeb rhyngwladol rhwng y gwledydd yng Nghyngor Ewrop. Mae’n cynnwys erthyglau sy’n ymwneud â hawliau dynol sydd wedi eu gosod megis Erthygl 4: gwahardd caethwasiaeth a llafur gorfodol, Erthygl 6: yr hawl i dreial teg. Gwrandewir ar unrhyw achosion o dorri’r hawliau yn Llys Hawliau Dynol Ewrop.