Jane Ashman Logo

Laws and Guidance – 3. Trosolwg Deddfau ac Arweiniad

Diffiniwch beth mae ‘diogelu’ yn ei olygu i chi ac enwi cymaint o ddeddfau ac arweiniad y gallwch feddwl amdanynt sy’n ymwneud â diogelu. 

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn diffinio diogelu fel atal ac amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg o gam-drin neu esgeulustod ac addysgu y rhai o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r perygl. 

Hoffaf ystyried Diogelu fel term ymbarél, fel yn y sleid hwn, (wedi ei atodi ar wahân yn Power Point). Bydd yn cwmpasu llawer o bolisïau sydd gennych yn yr ysgol megis presenoldeb, ymweliadau oddi-ar y safle, cymorth cyntaf, diogelwch safle, y defnydd o rym rhesymol, rhoi meddyginiaeth, a mwy.  

Yn Lloegr, gyda’r uwchraddiad i Working Together, maent wedi cynnwys 2 bwynt ychwanegol i’w diffiniad,rhai sydd ddim yn weithredol yng Nghymru eto, ond efallai y dylwn eu hystyried. Y rhain yw:    

  • darparu cymorth a chefnogaeth i ddiwallu anghenion plant cyn gynted ag y daw problemau i’r amlwg 
  • hyrwyddo magwraeth plant gyda’u rhieni biolegol neu, fel arall, gyda’u rhwydwaith teuluol drwy drefniant gofal gan berthnasau, pryd bynnag y bo modd a ble mae hynny er lles gorau’r plant  

Mae 5 prif ddeddf ac arweiniad y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt mewn Addysg yng Nghymru. Dechreuwn yn y cychwyn gyda’r deddfau gan weithio’n ffordd i lawr drwy’r gwahanol weithdrefnau ac arweiniad. 

Template File: single.php