Laws and Guidance – 2. Cyflwyniad i’r Pwnc
Fideo Trawsgrifiad
Pan ddechreuais i ddysgu, yn ôl yn y ‘90au, doeddwn i ddim yn gwybod, i fod yn onest, os oedd gennym unrhyw arweiniad, unrhyw ddeddfau yn ymwneud ag amddiffyn plant yr oeddem yn ymwybodol ohonynt yn yr ysgol, ac yn sicr nid oeddem wedi derbyn polisi nac unrhywbeth. Yn ddiweddarach, dros amser, daeth polisïau a gweithdrefnau allan ac, i fod yn onest, wnes i ddim cymryd llawer o sylw ohonynt. Meddyliais, dogfen, iawn, mae’n cyrraedd, weithiau roedd mor drwchus fy mod yn ei ddefnyddio i ddal y drws yn agored, neu byddwn yn ei roi ar silff mewn ffeil gyda’r label ‘polisïau’, ac roedd yno’n hel llwch.
Doedd dim byd tebyg i ddogfennau gweithredol, nac unrhyw ddealltwriaeth o’u pwysigrwydd. Felly, gobeithio, yn ystod y modiwl hwn, y byddwch yn dechrau bod yn ymwybodol o’u pwysigrwydd a’r hyn rydym yn ei wneud wrth dderbyn y polisïau. Mae disgwyl i ni arwyddo amdanynt ac rydym yn cytuno i gadw atynt. Felly, rwy’n meddwl, yn ystod y modiwl hwn, y byddwn yn cynnwys y pethau sylfaenol. Y newyddion da yw nad oes disgwyl i chi eu gwybod, er y byddaf yn gofyn i chi fynd drwyddynt yn ystod y modiwl hwn. Ond, cyn bellech ag eich bod yn gwybod lle i ddod o hyd iddynt, dyna’r peth pwysicaf. Felly, i ddechrau gyda’r pethau sylfaenol, rydym yn defnyddio’r term ‘diogelu’ lawer iawn erbyn hyn. Caiff ei ddefnyddio’n helaeth, felly rwyf am eich gadael gyda chwestiwn:
Beth mae ‘diogelu’ yn ei olygu i chi? Sut fyddech chi’n ei ddisgrifio i staff eraill? Sut fyddech chi’n ei ddisgrifio i’ch dysgwyr?