Jane Ashman Logo

Laws and Guidance – 13. Camau Nesaf

Camau nesaf

Awgrymaf eich bod yn sicrhau bod gennych gopi ac eich bod wedi darllen Polisi Diogelu diweddaraf eich ysgol. Sicrhewch eich bod wedi lawrlwytho Ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru neu eich bod wedi cadw’r ddolen i gael mynediad iddo ar-lein yn Safeguarding Wales. Darllenwch adrannau perthnasol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel sy’n berthnasol i’ch rôl chi. Gallwch ddod o hyd i gopi yn adran Adnoddau fy ngwefan Resource Library Update – Jane Ashman Safeguarding 

Mae Adran 128 ac 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan y dyletswydd i adrodd ar oedolyn neu blentyn sydd yn wynebu risg. Fel aelod staff sy’n gweithio mewn addysg, mae’r ddyletswydd gyfreithiol yma’n berthnasol i ni ac mae’n rhaid i ni adrodd ar unrhyw bryderon sydd gennym am oedolion a phlant. O fewn ysgolion, byddai hyn yn golygu adrodd ar eich pryderon a’u pasio ymlaen i’r Person Dynodedig Diogelu (PDD). Mae hyd yn hynod bwysig, gan ein bod yn cofnodi unrhyw bryderon sydd gennym, ac wedyn bydd y PDD yn adeiladu darlun mwy cyflawn o’r sefyllfa. 

Llinellau Cymorth
  • Childline – Cymorth 24 awr y dydd ar gyfer pobl ifanc, dros y ffôn a thrwy sgyrsiau ar-lein a byrddau negeseuon 0800 1111 
  • The Mix – gwybodaeth a chefnogaeth i rai dan 25 oed 0808 808 4994 
  • Meic – 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos 080880 23456 gydag opsiynau sgwrsio ar-lein ar gael hefyd. Testun 84001  
  • Galop – ar gyfer cefnogi pobl LGBT+ 0800 999 5428 help@galop.org.uk 
  • Samaritans – ar gael 24/7 galwch am ddim ar 116 123, e-bost jo@samaritans.org neu sgwrsio ar-lein 
  • NSPCC – 0808 800 5000  
  • NAPAC National Association for People Abused in Childhood 0808 801 0331 
    • Dydd Llun i Ddydd Iau: 10am – 9pm 
    • Dydd Gwener: 10am – 6pm 
    • Dydd Sadwrn a Dydd Sul – Ar Gau 
Feedback

Feedback is important to us, if you have the time please fill out the form below. We use your feedback to make further improvements to our course content to provide you a better service.

https://janeashmansafeguarding.fillout.com/membership-beta

Template File: single.php