Laws and Guidance – 12. Plentyn mewn Risg ac oedolyn mewn Risg
Fideo Trawsgrifiad
Felly, mae’r diffiniad rydych newydd ei weld ar eich sgrin, felly ‘plentyn sy’n wynebu risg’ yw plentyn sy’n profi risg o gam-drin, esgeuluso neu fathau eraill o niwed (awn drwy’r rhain mewn ychydig funudau), sydd ag anghenion am ofal a chefnogaeth, boed yr Awdurdod yn diwallu unrhyw rai o’r anghenion hynny ai peidio, ac eto byddwn yn egluro bath mae hyn yn ei olygu. Ac mae’r trydydd pwynt yn y fan yna’n berthnasol i oedolion yn unig. Nid ydym yn disgwyl i blant allu amddiffyn eu hunain yn erbyn y niwed, i allu adnabod y niwed, ond rydym yn disgwyl i oedolion wneud hynny. Felly yr allwedd yma, fel ddywedais i, gydag oedolion, yw nad ydynt yn gallu amddiffyn eu hunain yn erbyn y cam-drin, yr esgeuluso, neu’r risg ohono o ganlyniad i’r anghenion hynny, ac fe edrychwn ar hyn eto mewn ychydig funudau. Gan ddod yn ôl i’r pwynt bwled cyntaf eto – oedolion a phlant, cofiwch y rhan yna. ‘Os ydynt yn profi neu wynebu’r risg o gam-drin’, felly rwy’n meddwl bod angen i ni ystyried, i ddechrau, beth yn union yw’r gwahaniaeth rhwng y ddau? Syt fydden ni’n gwybod 100% fod rhywun yn profi cam-drin?
Y rhan fwyaf o’r amser, yr unig ffordd y byddem yn gwybod 100% eu bod yn profi cam-drin fyddai os byddai datgeliad wedi ei wneud, a bod hynny wedi ei brofi wedi’r datgeliad hwnnw. Neu bod marciau ar blentyn oedd wedi mynd i archwiliad meddygol ac nad oedd eglurhâd arall amdano. Ond beth mae hynny yn ei wneud, yw ei fod yn golygu ein bod yn edrych am y cam-drin i ddigwydd cyn y gallwn eu cefnogi, cyn y gallwn roi unrhywbeth ymlaen. Nawr, rydym yn gwybod bod rhwystrau i blant i ddatgelu, ac y gall gymryd hyd at 7 mlynedd ar gyfartaledd mewn plentyndod, os ydynt yn datgelu yn ystod eu plentyndod. Os ydynt yn datgelu pan yn oedolyn, ac eto mae’r pwyslais ar yr ‘os’, oherwydd ni fydd rhai pobl byth yn datgelu. Ond os ydynt yn gwneud, ar gyfartaledd, mae’n 27 mlynedd. Mae dynion yn tueddu i gymryd mwy o amser na merched, felly rydym yn edrych ar amser hir y gallai rhywun fod yn profi cam-drin.
Felly, y rhan allweddol yn y fan yma, gyda’r diffiniad hwn, ar ein cyfer ni mewn addysg, yw’r rhan sy’n sôn am fod yn wynebu risg o gam-drin. A dyma’n harwyddion a’n dangosyddion, ac eto awn i mewn i hyn mewn mwy o fanylder yn y modiwl ‘Arwyddion a Dangosyddion’ ble byddwn yn edrych ar y gwahanol fathau. Ond i ni, mae’n ymwneud â phethau fel newid mewn ymddygiad, newid yn y dillad maent yn eu gwisgo o bosibl, eu grŵp ffrindiau. Ydyn nhw’n siarad? Am beth mae nhw’n siarad? Beth yw eu diddordebau? Gall yr holl agweddau hyn ddangos i ni eu bod yn wynebu risg o gam-drin.
Unrhyw beth sydd gennym, hyd yn oed os yw’n deimlad (‘niggle’) ac nad ydym yn hollol sicr, teimlad. Dylid pasio unrhyw bryder o’r fath i’r PDD, eich Personau Dynodedig Diogelu. Oherwydd, eto, maent yn storio’r holl wybodaeth o fewn yr ysgol. Efallai bod ganddynt wybodaeth yn ymwneud â brodyr neu chwiorydd, ond ar hyn o bryd nid yw’n ddigon yn ei hun i allu ei adrodd i’r Gwasanaethau Plant. Y darn bach yna o wybodaeth sydd gennych chi, efallai mai hwnnw yw darn olaf y jig-so.
‘Anghenion am Ofal a Chefnogaeth’ – nawr y peth allweddol yma yw beth sydd mewn bracedi, – p’un ai yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw o’r anghenion hyn ai peidio. Mae Adolygiadau Achosion Difrifol blaenorol, neu’r Adolygiadau Ymarfer Plant fel y maent yn cael eu hadnabod nawr, wedi dangos i ni bod achosion ble mae unigolion wedi dweud, “Does dim angen i ni adrodd dim byd oherwydd maent yn agored i’r Gwasanaethau Plant. Does dim angen i ni adrodd dim byd oherwydd mae ganddynt weithiwr iechyd meddwl.” I egluro hyn, does dim ots pwy arall sy’n gweithio gyda’r plentyn yna, neu’r teulu, os oes gennych chi bryderon mae’n ddyletswydd arnoch chi, fel y soniasom amdano’n gynharach, o fewn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, mae’n ddyletswydd arnoch chi i basio’r pryderon ymlaen, felly sicrhewch eich bod yn gwneud hynny os gwelwch yn dda.
Wrth i ni ddod i’r pwynt olaf, felly, ar gyfer yr oedolion, byddem yn disgwyl, fel ddywedais i, iddynt allu fynd i chwilio am help, i allu gofyn amdano, ac fe siaradwn fwy am hynny o dan ‘Lefel yr Angen’. Ond efallai, fel y gwelwch yn y fan hyn, bod ganddynt anghenion. Gallai’r anghenion fod yn anghenion dysgu ychwanegol. Efallai fod ganddynt gaethiwed i alcohol neu gamddefnydd sylweddau. Efallai eu bod mewn perthynas sy’n eu rheoli neu orfodi. Gallai fod agwedd ddiwylliannol yn ymwneud â pheidio bod eisiau mynd yn erbyn dymuniadau eu teulu a dod â chywilydd ar y teulu. Gallai fod yn ymwneud â’u rhywioldeb, ac nad ydynt yn gallu ei drafod o fewn diwylliant eu teulu. Felly, yn sicr, mae agweddau a allai fod yn rhoi pwysau ar oedolion a allai olygu eu bod yn cael eu cam-drin ac yn methu amddiffyn eu hunain. Felly sicrhewch ein bod yn ystyried yr agweddau hyn, a pheidio meddwl, “Mae o’n oedolyn, dylai allu delio gyda hyn.” Ac eto, sicrhewch os oes gennych unrhyw bryderon, ei fod yn ddyletswydd arnom ni o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ein bod yn pasio’r pryderon hynny am oedolyn ymlaen i’n PDD hefyd.