Laws and Guidance – 11. Diffiniadau Plentyn mewn Risg ac Oedolyn mewn Risg
Mae gan Eirfa Gweithdrefnau Diogelu Cymru y diffiniadau a ganlyn:
Mae Plentyn sy’n Wynebu Risg yn disgrifio unigolyn dan 18 oed sy’n cael neu sy’n wynebu risg o gam-drin, esgeuluso neu ffurfiau eraill ar niwed; ac y mae ganddo anghenion gofal a chymorth (p’un ai a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un neu rai o’r anghenion hynny ai peidio). Pan geir adroddiad am blentyn dan adran 130 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, bydd yr awdurdod lleol yn gwneud neu’n sicrhau y gwneir yr ymholiadau hynny a ystyrir yn angenrheidiol i’w galluogi i benderfynu a ddylent gymryd camau i ddiogelu neu hyrwyddo lles y plentyn dan adran 47, Deddf Plant (1989).
Mae oedolyn sy’n Wynebu Risg yn disgrifio unrhyw un dros 18 oed sy’n profi neu sydd mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso ac sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio), ac o ganlyniad i’r anghenion hynny yn methu amddiffyn ei hun yn erbyn y cam-drin neu’r esgeulustod neu’r risg ohono. (Adran 126 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014)