Level of Need – 1. Cyflwyniad
Yn ystod y modiwl hwn byddwn yn edrych ar sut mae lefel yr angen ar gyfer plant a phobl ifanc yn gallu amrywio yn seiliedig ar eu hamgylchiadau.
Erbyn diwedd y modiwl hwn byddwch yn:
- Deall sut gall lefel yr angen gynyddu wrth i’r sefyllfa newid
- Deall sut mae lefel y gefnogaeth sydd ei hangen yn amrywio ym mhob sefyllfa ac y dylem ddewis yr opsiwn lleiaf ymwthiol
- Deall hawliau rhieni a phlant a sut mae angen i ni weithio gyda theuluoedd
- Deall pwysigrwydd cydsyniad ac ymglymiad y teulu