Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 8. Y rhesymu y tu ôl i HSB
Y rhesymu y tu ôl i HSB
Fel soniais yn y fideo cyntaf, mae llawer o resymau posibl a allai achosi HSB, a rôl y PDD yw i archwilio’r achosion ac i ddarganfod beth yw’r gwraidd ac i gynnig cefnogaeth er mwyn newid ymddygiad rhywiol y plentyn.
- Ddim yn sylweddoli neu’n credu bod eu hymddygiad yn anghywir – maent yn ystyried yr ymddygiad i fod yn normal ac yn rhan ddisgwyliedig o fod yn rhywun yn eu harddegau.
- Efallai eu bod yn copïo ymddygiad niweidiol maent wedi ei ddysgu yn rhywle arall, megis ar raglenni teledu neu gan oedolion eraill, p’un a ydyn nhw’n gwybod eu bod yn gwneud hyn ai peidio.
- Mae’r ymddygiad yn cael ei brofi mor eang nad ydynt yn disgwyl cael eu herio.
- Mae ganddynt hunan-werth isel neu wedi profi straen, trawma neu ymosodedd yn eu bywydau eu hunain ac yn ei gymryd allan ar rhywun arall.
- Yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i wneud oherwydd pwysau cyfoedion.
- Efallai ei fod yn ymgais i frifo eraill ar bwrpas, er enghraifft i frifo person ifanc arall wedi i gyfeillgarwch neu berthynas ddod i ben, neu i gywilyddio rhywun.
- Gallai cynnwys gael ei rannu gan y rhai hynny sydd eisiau bod yn boblogaidd neu gan bobl sy’n ‘cadw rhan’ ffrind.
- Mae rhywbeth yn cael ei rannu fel jôc ond yn defnyddio iaith rhywioledig, homoffobaidd, neu wahaniaethol.
- Copïo tueddiadau o Tik Tok neu lwyfannau rhannu / ffrydio fideo eraill.
- Diflastod. Unigrwydd, gorbryder, dryswch neu iselder.
- Chwilfrydedd, mae’n teimlo’n dda.
- Archwilio hunaniaeth rhywiol a rolau rhywedd
- Posibilrwydd o feithrin perthynas, camfanteisio rhywiol ar blant.
- Diffyg dealltwriaeth, rheolau, canlyniadau neu ffiniau priodol.
- Mynediad problematig, parhaus i bornograffi.