Jane Ashman Logo

Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 7. Senarios

Fideo

Gobeithio eich bod wedi cael cyfle i edrych ar y pedwar senario yma ac i benderfynu ble byddech yn eu rhoi ar gontinwwm Simon Hackett. Gan gofio pan rydym yn defnyddio’r continwwm, mai labelu yr ymddygiad yn unig yr ydym, yr ymddygiad rhywiol, nid y disgybl unigol. Rwy’n meddwl ei fod yn allweddol i bwysleisio hyn. Felly ble, ar y gwaelod, mae gennym ‘normal’, ‘amhriodol’ problemus’, ‘sarhaus’ a ‘threisgar’, labeli ydynt ar gyfer yr ymddygiad rydym yn ei weld. Felly, os gwelwch yn dda, sicrhewch ein bod yn defnyddio’r math yna o derminoleg. Oherwydd mynychais gynhadledd ryngwladol, ac roedd cwmni o Awstralia drosodd ac yn rhoi cyflwyniad ar eu defnydd o’r model hwn, ac yn dweud mai un o’r problemau yno oedd bod pobl yn defnyddio’r label i labelu’r plentyn, nid yr ymddygiad. Felly sicrhewch, os gwelwch yn dda, ein bod yn ei ddefnyddio i labelu’r ymddygiad.

Edrychwn felly ar y cyntaf sydd gennym, ‘Jamie (11 oed) sy’n treulio amser yn nhoiledau’r ysgol yn mastyrbio yn ystod amser chwarae bore ac amser cinio.’ Rwy’n siŵr bod gennych gwestiynau am yr agwedd yma. I ddechrau, yndi, mae’n ymddygiad y mae angen i ni adrodd arno i’n PDD, ac mae’r rhain i gyd yn ddigwyddiadau y byddem yn adrodd arnynt i’n PDD. Beth fydd y PDD yn ei wneud wedyn fydd i edrych ar hyn ac i edrych ar y rhesymeg y tu ôl i hynny. Felly, gyda Jamie, ydi hyn yn beth chwantus (‘sensual’)? A yw’n ardal sydd ddim yn rhywioledig, ond eu bod yn hoffi teimlad y peth, nad ydynt yn gwybod pam mae nhw’n ei wneud? A yw’n rhywbeth maent wedi gweld rhywun arall yn ei wneud? A yw’n rhywbeth maent wedi ei weld o fewn pornograffi? Ac felly, eto, wedi dechrau mastyrbio eu hunain, yn ei fwynhau ac wedi cario ‘mlaen? Y cwestiwn sy’n mynd i godi yma i’r PDD ydi, ‘A yw’r toiled ysgol yn rhywle sy’n briodol ar gyfer yr ymddygiad yma?’ a’r ateb ddaw allan fydd ‘Nac ydi.’ Felly, pan edrychwn ar yr ymddygiad o fastyrbio, mae’n ddigon normal i bobl fastyrbio (eto, o edrych ar yr oed). Un peth y byddwn yn ei ofyn i chi, er hynny, yw, oeddech chi’n meddwl mai gwrywaidd neu fenywaidd oedd Jamie? Meddwl unwaith eto am ein rhagfarn weithiau, pan rydym yn tueddu i glywed am fastyrbio, tueddwn i feddwl am wrywod yn unig, ond mae menywod hefyd yn mastyrbio. Eto, meddwl am dynnu’r ffrwynau i ffwrdd yn y fan yna.

Felly, fel dywedais i, bydd y PDD yn edrych arno. Ie, o feddwl, yn ddatblygiadol, mae’n ymddygiad reit normal. A yw’n digwydd ble rydym am iddo ddigwydd? Nac ydi, nid o fewn toiledau’r ysgol. Hefyd, byddant yn edrych arno o ran a allai fod yn broblemus? h.y. os yw’n digwydd mor aml ei fod bron yn fath o gaethiwed? Ac fe allai fod, fel dywedais i, gallwch fod yn gaeth i’r agwedd yma. Cofiaf wylio rhaglen o’r enw ‘Porn on the Brain’ oedd yn cynnwys gwrywod a menywod, ond beth oedd y gwryw yn ei ddweud oedd, yn llythrennol, fod yn rhaid iddo fastyrbio 27 gwaith y diwrnod. Tynnwch yr amser cysgu allan, rwy’n siŵr ei fod yn anodd iawn cadw swydd oherwydd yr amser, fel dywedais i, oherwydd dywedodd fod y boen y byddai’n ei deimlo pe na bai’n gwneud yn anghredadwy. Felly, daeth yn fwy o fater o leddfu’r boen yna yn hytrach na’r pleser rhywiol o fastyrbio. Felly mae’r PDD yn gweithio allan, fel dywedais i, beth yw’r rheswm y tu ôl i hynny. Ond, yn sicr, mae’n rhywbeth y dylem adrodd arno iddynt.

Kelly, eto, oeddech chi’n meddwl gwrywaidd neu benywaidd? Meddwl am hynny. ‘Ei hun yn ystafell ymolchi’r teulu, yn cyffwrdd ei organau rhywiol ac yn tynnu llun.’ Efallai bod rhai ohonoch wedi meddwl yn syth, ‘Llun, yn syth, a yw’n mynd i’w roi ar y we? A yw wedi ei rannu gyda rhywun arall? Os byddent wedi gwneud hynny, byddai hynny’n sicr yn ei symud i fyny’r continwwm. Ond, yn yr esiampl yma, beth oedd wedi digwydd mewn gwirionedd oedd eu bod yn ceisio gweld os oeddent yn ‘normal’ a’r unig ffordd y gallwch weld eich organau rhywiol chi eich hun yn yr esiampl yma oedd i dynnu llun, a defnyddio ffôn i wneud hynny. Flynyddoedd yn ôl, byddai wedi bod yn ddrych a cheisio rhoi’r drychau ar ongl i allu gweld os yw’r ffordd rydych yn edrych yn normal. Ac eto, mae doctoriaid wastad yn dweud wrthym i wybod sut mae eich bronnau’n edrych ac yn teimlo, sut mae eich ceilliau yn edrych ac yn teimlo, i wybod yr un fath am eich gwain. Felly nid yw’n agwedd sy’n achosi pryder, dim ond ffordd newydd i allu gweld.

Y cwestiwn wedyn, a ble bydd y PDD yn mynd gyda hyn, yw ‘Beth ddigwyddodd i’r llun?’ A yw wedi cael ei ddileu unwaith maent yn gwybod sut maent yn edrych? A ydynt wedi ei adael ar eu ffôn? A ydynt wedi ei ddangos i rhywun arall ac wedi dweud, ‘Wel dyma sut ydw i’n edrych, wyt ti’n edrych yn debyg?’ Yn yr achos yma, byddem yn dechrau symud i fyny’r continwwm. Oherwydd, eto, nid yw gorfodi rhywun arall i edrych ar luniau o’ch organau rhyw chi yn ymddygiad datblygiad normal. Byddai hynny, wedyn, yn ymddygiad amhriodol i ddangos eich organau rhyw i rhywun arall.

A ydynt wedi eu gyrru i rhywun? Ac wedyn, yn amlwg, unwaith mae’r llun yna wedi cael ei yrru, yna maent yn colli rheolaeth dros gyda phwy arall y gellir ei rannu ac mae’n dechrau dod yn broblemus. A ydynt wedi cael eu gorfodi i’w wneud? A ydynt wedi cael eu meithrin ar gyfer perthynas amhriodol? A dyma’r math o gwestiynau fydd gan y PDD ac yn gwneud ychydig mwy o ymchwilio. Beth sydd angen i chi ei gofio yw mai dim ond darn yn y jigso ydyn ni. Felly, trwy yrru’r wybodaeth yna i’r PDD, gallent edrych ar yr wybodaeth ehangach a gweld os fyddai ganddynt bryder am hynny ai peidio.

Mae Micah, wedyn, ‘wastad yn eistedd neu’n sefyll yn agos iawn at ddisgybl penodol’. Gallai fod yn hollol ddiniwed, ond os yw’r disgybl yna’n dal i symud a Micah yn parhau i symud yn agosach, y disgybl yn symud eto, Micah yn symud yn agosach, yna mae angen gofyn cwestiynau ynghylch yr agwedd yna. Ac eto, mae angen i ni siarad gyda’r disgybl, sut mae hyn yn gwneud iddynt deimlo, oherwydd dyma’r math o sgwrs mae’n rhaid i ni gael gyda Micah, o ran y disgybl arall a’u teimladau ac os ydynt yn hapus gyda’r sefyllfa honno ai peidio.  Felly eto, bydd mwy o gwestiynau’n cael eu gofyn yn y fan yna. Ond gallai fod yn hollol ddiniwed, efallai eu bod yn gyfeillgar iawn gyda’r person yna, eu bod yn eu hadnabod, eu bod yn teimlo’n gyfforddus gyda nhw ac felly wastad yn aros yn agos atynt. Ond mae cwestiynau, yn sicr, y mae angen i’r PDD eu gofyn.

Chris, wedyn, 13 oed (ac eto, gwrywaidd neu benywaidd? Dim ond meddwl beth wnaethoch chi) yn parhau i ddangos lluniau o’r clip pornograffi diweddaraf maent wedi dod o hyd iddo i’w ffrindiau. Ac mae edrych ar bornograffi yn yr oed yna yn reit normal. Y cyfartaledd rŵan yw 10 i 11, bydd llawer o blant wedi ei weld yn llawer ieuengach, ac eto beth sy’n digwydd os ydyn ni’n meddwl am y dechnoleg y siaradom amdano yn y fideo diwethaf a’r mynediad iddo.

Efallai bod llawer ohonynt wedi clicio ar rhywbeth, beth rydym yn ei alw’n ‘clickbait’, rwy’n siŵr eich bod i gyd wedi ei gael. Rydych yn clicio ar ddolen yr ydych yn meddwl sydd am fynd â chi i un lle, clicio arno ac mae’n mynd â chi i rhywle hollol wahanol, efallai ‘yn meddwl fy mod am gael yr erthygl newyddion yma ac mae rhywbeth arall wedi dod i fyny’.

Dyna beth sy’n dueddol o ddigwydd, nad yw’n dweud yn y ddolen sy’n cael ei gyrru iddynt yn union beth mae’n ei olygu. Felly mae llawer o blant ieuengach wedi ei weld. Y cwestiwn sydd gennym yw, a ‘yw’r ymennydd yn barod i’w weld tra’r oed yna?’ a’r ateb yw ‘nac ydi’. Pan rydych yn sôn am blant tua 7 i 10 mlwydd oed, mae’n ymwneud â sut i’w brosesu, gwybod beth sy’n digwydd, gwybod pa deimladau maent yn eu cael yn eu corff. Ydi hyn yn ffordd normal i deimlo pan maent yn edrych ar bornograffi?

Ond yma, y rhan allweddol yma yw ‘parhau i’w dangos i’w ffrindiau’. Ydi eu ffrindiau wedi gofyn i gael ei weld? A ydynt yn eu gorfodi i’w weld? Pan edrychwn ni ar y diffiniad o gam-drin plentyn yn rhywiol, gyda’r rhan di-gyswllt, mae gorfodi rhywun i edrych ar bornograffi yn cael ei gyfrif fel cam-drin plentyn yn rhywiol. Eto, y math yna o wybodaeth a sgyrsiau. Ydi hyn yn golygu ein bod am neidio’n syth i mewn a mynd â nhw i gynhadledd amddiffyn plant? Nac ydi. Golygai, fel dywedais i, fod y PDD yn mynd i orfod edrych a phenderfynu beth yw’r camau gweithredu gorau. Ac efallai mai dim ond cael sgyrsiau fyddai hynny, oherwydd eto os rydych chi’n dod o aelwyd ble mae rhieni’n edrych ar bornograffi yn agored, yn cael ei ddefnyddio gan y rhieni, yn cael ei drafod gan rieni, pam na fyddai’r plentyn yn meddwl ei fod yn normal? Felly eto, dyma’r mathau o bethau y bydd y PDD yn edrych arnynt.

Template File: single.php