Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 6. Goleuadau Traffig
Goleuadau Traffig
Mae’r Lucy Faithfull Foundation (yn ogystal â Brook) wedi mynegi’r ymddygiadau hyn ar system goleuadau traffig – gallwch weld hwn isod.
Mae’r wybodaeth a ganlyn wedi’i rhestru fel esiampl yn unig, ac nid yw’n gynhwysfawr mewn unrhyw ffordd nac yn adlewyrchiad gwirioneddol o bob plentyn.
Gwyrdd Ymddygiadau
Gwyrdd yw’r ymddygiadau naturiol a disgwyliedig. Nid yw hyn yn golygu eich bod am i’r ymddygiadau hyn barhau, ond maent yn rhoi’r cyfle i siarad, i addysgu ac i egluro beth sy’n briodol.
- Plant 0 i 4 oed
- Mwynhau bod yn noeth
- Gafael neu chwarae gyda’u horganau rhyw eu hunain
- Ceisio cyffwrdd neu chwilfrydedd am fronnau, pen ôl neu organau rhyw oedolion
- Chwilfrydedd am y gwahaniaethau rhwng bechgyn a genethod
- Plant 5 i 9 oed
- Ymdeimlad o breifatrwydd am eu cyrff eu hunain
- Chwilfrydedd am ryw a pherthnasoedd e.e. o ble mae babis yn dod
- Plant 9 i 13 oed
- Mastyrbiad unigol
- Cusanu, cofleidio, gafael yn nwylo cydsyniol
- Defnydd o eiriau rhywiol yn cynnwys rhegi a geiriau slang
- Plant 13 i 17 oed
- Sgyrsiau rhywiol eglur gyda chyfoedion
- Edrych ar ddeunydd am gyffroad rhywiol
Gall Ymddygiadau
Gall ymddygiadau oren achosi pryder a bod â’r potensial i fod y tu allan i’r ymddygiadau diogel a iach os ydynt yn parhau. Maent angen ymateb gan oedolyn amddiffynnol, cefnogaeth ychwanegol a monitro agos.
- Plant 0 i 4 oed
- Tynnu dillad isaf plant i lawr / codi sgertiau / tynnu trowsus plant i lawr
- Dilyn eraill i mewn i’r toiledau neu’r ystafelloedd newid i edrych arnynt neu i’w cyffwrdd
- Diddordeb mewn cyffwrdd organau rhyw pobl eraill
- Plant 5 i 9 oed
- Cwestiynau am weithgareddau rhywiol sy’n parhau neu sy’n cael eu hailadrodd yn aml, er bod ateb wedi ei roi
- Bwlio rhywiol wyneb yn wyneb neu drwy negeseuon testun
- Delweddau rhywiol a syniadau rhywiol parhaus wrth siarad, chwarae a chelf
- Plant 9 i 13 oed
- Arddangosiaeth e.e. fflachio neu ddangos pen-ôl
- Mynediad i ddeunyddiau cyfyngedig o ran oedran, e.e. ffilmiau, gemau, y we, gyda chynnwys rhywiol eglur
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol gyda chyfoed anhysbys, e.e. cusanu dwfn, mastyrbio cydfuddiannol
- Plant 13 i 17 oed
- Diddordeb rhywiol sy’n ymyrryd gyda’u gweithredu dyddiol
- Digwyddiadau unigol o sbecian, dinoethi, dangos pen-ôl neu ystumiau anweddus
Tynnu a gyrru delweddau noeth neu pryfoclyd yn rhywiol o’u hunain neu eraill
Coch Ymddygiadau
Mae coch y tu allan i’r ymddygiadau iach a diogel. Gall yr ymddygiadau hyn fod yn arwydd o’r angen am amddiffyniad a chefnogaeth ar unwaith gan weithiwr gofal plant proffesiynol, er enghraifft ymwelydd iechyd, meddyg teulu, neu weithiwr cymdeithasol.
Gyrru ac/neu gyhoeddi delweddau rhywiol o berson arall ar bwrpas heb eu caniatâd
Plant 0 i 4 oed
- Efelychiad o weithgaredd rhywiol wrth chwarae
- Ymddygiad rhywiol rhwng plant ifanc sy’n cynnwys treiddiad gwrthrychau
Cyffwrdd eu horganau rhyw neu organau rhyw eraill yn barhaus
Plant 5 i 9 oed
- Ymddygiad rhywiol sy’n ymgysylltu â phlant sy’n sylweddol iau neu’n llai abl
- Efelychiad o ryw geneuol neu ryw treiddiol
Chwilota am ddeunydd pornograffig ar-lein
Plant 9 i 13 oed
- Aflonyddu rhywiol
- Anaf i’w horganau rhywiol eu hunain neu eraill
Gweithgaredd rhywiol e.e. rhyw geneuol neu ryw treiddiol
Plant 13 i 17 oed
- Diraddio neu gywilyddio rhywiol i’w hunain neu eraill
- Ymddygiad rhywiol ymosodol neu gamfanteisiol
- Mastyrbio cymhellol
Gweithgaredd
Trefnwch y bedair senario a ganlyn gan ddefnyddio model dosbarthu Hackett
- Mae Jamie (11 oed) yn treulio amser yn nhoiledau’r ysgol yn mastyrbio yn ystod amser chwarae’r bore ac amser cinio.
- Mae Kelly (12 oed) ar eu pen eu hunain yn ystafell ymolchi’r teulu yn cyffwrdd eu horganau rhyw ac yn tynnu llun.
- Mae Micah (8 oed) yn eistedd / sefyll yn agos iawn i ddisgybl penodol yn barhaus.
- Mae Chris (13 oed) yn dangos y clip fideo pornograffig diweddaraf maent wedi dod o hyd iddo i’w ffrindiau.
Oes yna unrhyw wybodaeth arall yr ydych yn teimlo sydd ei hangen arnoch wrth edrych ar yr esiamplau hyn?