Jane Ashman Logo

Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 5. Gweithgaredd

Gweithgaredd – edrychwch ar yr esiampl a ganlyn:

Rydym yn gweithio mewn dosbarth meithrin neu derbyn, ac rydych yn clywed chwerthin yn dod o un o’r ardaloedd chwarae, sydd allan o’ch golwg. Rydych yn edrych dros wal y tŷ chwarae ac yn gweld dau blentyn gyda’u dillad isaf i lawr yn pwyntio at organau rhyw ei gilydd. Ble fyddech chi’n rhoi’r ymddygiad yna ar y continwwm uchod?

Rhai pwyntiau i’w hystyried:

Mae’r ddau blentyn yn chwerthin ac yn pwyntio at organau rhyw ei gilydd. Mae hyn yn awgrymu bod yr ymddygiad yn gydsyniol. Mae’n ddatblygiadol normal i blant o’r oed yna i fod yn chwilfrydig am ardaloedd organau rhyw. Ond, nid yw’n ymddygiad y byddwn am ei weld yn cael ei ailadrodd mewn lleoliad dosbarth!

Efallai, felly, y byddem yn defnyddio hyn fel cyfle dysgu ac yn siarad gyda’r ddau blentyn ynghylch bod eu hardaloedd organau rhyw yn breifat. Byddai’r sgwrs yma yn briodol i’w hoedran ac  yn cael ei rhoi mewn modd na fyddai’n achosi pryder na gofid i’r plant.

Sut y gallai’r sefyllfa ddwysáu:

Wrth symud i fyny’r continwwm, er hynny, gallai’r senario yma ddatblygu mewn ffyrdd a allai achosi pryder i ni:

  • Ymddygiad yn ailadrodd: Yn dilyn eich sgwrs gyda nhw, mae’r ymddygiad yn parhau i ddigwydd dro ar ôl tro
  • Mae anghydbwysedd pŵer yn ymddangos: Mae un plentyn yn dechrau domineiddio’r llall – nid yw’r ddau blentyn yn chwerthin bellach, dim ond un plentyn sy’n chwerthin tra mae’r llall yn ymddangos yn ofidus
  • Gorfodaeth a chyfrinachedd: Mae un plentyn yn mynd â phlentyn arall i ofod preifat megis storfa ac yn eu gorfodi i dynnu eu dillad

Ar y pwynt yma, byddai’r ymddygiad yn symud tuag at ymddygiad rhywiol camdriniol ac fe fyddai angen ymyrraeth diogelu ar unwaith.

Mae deall ble mae’r ymddygiad yn eistedd ar y continwwm yma yn ein helpu i ymateb yn briodol – o addysg ysgafn a gosod ffiniau ar un pen, i ymyrraeth diogelu ar unwaith ar y llall.

Nodyn Pwysig:

Mae HSB yn ardal annelwig ble mae angen edrych ar y sefyllfa a’r plentyn yn eu cyfanrwydd ac nid eu cymharu ar dabl sy’n dweud oherwydd bod plentyn yn ymddwyn mewn ffordd penodol, bod eu hymddygiad yn normal / ddim yn normal. Trwy sicrhau ei bod ni, fel staff, yn adrodd ar bopeth i’r PDD, rydym yn sicrhau y gallent edrych ar y sefyllfa gyfan ac ystyried nifer o ffactorau.

Template File: single.php