Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 13. Sut a phryd i adrodd ar HSB
Pryd y dylech chi fod yn bryderus
Mae’n bwysig cofio y dylai unrhyw beth y tu hwnt i ymddygiad datblygiadol “normal” – neu “wyrdd” ar y sbectrwm enfys a drafodwyd – fod yn achos pryder ac angen ei adrodd i’ch PDD.
Mae’n ddiddorol nodi bod Brook wedi penderfynu rhoi eu ‘Traffic Light Wall’ y tu ôl i wal dalu gan nad oeddent yn teimlo bod pobl o angenrheidrwydd yn ddigon medrus yn y defnydd o’r teclyn i’w ddefnyddio’n gywir wedi iddynt ei weld ar-lein. Mae HSB yn ardal annelwig ble mae angen edrych ar y sefyllfa a’r plentyn yn eu cyfanrwydd, yn hytrach na’u cymharu i dabl sy’n dweud ei fod yn iawn i blentyn o oed penodol i ymddwyn yn y modd yna. Dyma pam mai nid i asesu neu gategoreiddio’r ymddygiad ei hun yw eich rôl, ond i adnabod pan mae rhywbeth ddim yn teimlo’n iawn ac i adrodd arno. Ymddiriedwch yn eich greddf proffesiynol – os oes gennych bryderon ynghylch ymddygiad rhywiol plentyn, ble bynnag mae’n eistedd ar unrhyw sbectrwm neu ddyfais, adroddwch arno i’ch PDD.
Camau Nesaf
- Darllenwch arweiniad y Faithfull Foundation Helping parents and carers understand the sexual behaviour of teenagers
- Darllenwch arweiniad y Lucy Faithfull Foundation How to tell if a child’s sexual behaviour is appropriate for their age
- Y Canllaw ymarfer Cymru gyfan ar gyfer diogelu plant ble mae pryderon ynghylch ymddygiad rhywiol niweidiol, Diogelu Cymru
Sut i adrodd
Mae adrannau 128 a 130 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan ei fod yn ddyletswydd i adrodd ar oedolyn sydd mewn risg neu blentyn sydd mewn risg. Fel aelod staff sy’n gweithio mewn addysg, mae’r ddyletswydd gyfreithiol hon yn berthnasol i ni ac mae’n rhaid i ni adrodd ar unrhyw bryderon sydd gennym am oedolion a phlant.
O fewn ysgolion, golygai hyn gofnodi eich pryderon a’u pasio ymlaen i’r Person Diogelu Dynodedig (PDD).
Mae’n bwysig iawn ein bod yn cofnodi unrhyw bryderon sydd gennym, ac wedyn bydd y PDD yn gallu adeiladu llun llawnach o’r sefyllfa.
Beth Mae Angen i Chi ei Wneud
Mae’n hynod bwysig ein bod yn pasio ein pryderon ymlaen i’r PDD trwy ddefnyddio system adrodd eich hysgol, boed yn system electronig (My Concern, CPOMs) neu’n system bapur (gallai hyn fod ar ffurf ffurflen adrodd diogelu neu dempled).
Mae’n rhaid i chi gynnwys yr wybodaeth ar yr hyn yr ydych wedi ei weld neu a ddywedwyd wrthych. Cofiwch ddefnyddio’r geiriau a ddefnyddiwyd gan yr unigolyn oedd yn adrodd. Mae’n hanfodol bod yr wybodaeth yn cael ei chofnodi gan y ffynhonnell sylfaenol – y person oedd wedi ei weld neu’r un oedd wedi derbyn y datgeliad.
Yr arfer orau yw i adrodd ar bob ymddygiad rhywiol oherwydd ei fod yn ychwanegu darn i’r jigso, hyd yn oed oes ydyn ni’n meddwl bod yr ymddygiad yn briodol yn ddatblygiadol.
Trwy ddarparu’r wybodaeth yma i’r PDD, bydd yn eu helpu i ddeall cyd-destun yr hyn sydd wedi digwydd ac hefyd yn ychwanegu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ganddynt eisoes o ran pryderon am y disgybl yna.