Harmful Sexual Behaviour (HSB) – 12. Cefnogi pobl ifanc i ddysgu am ryw a pherthnasoedd iach
Cefnogi pobl ifanc i ddysgu am ryw a pherthnasoedd iach
Rôl pornograffi
Mae mynediad i bornograffi ar gael yn rhwydd i bobl ifanc heddiw. Gobeithio, o Orffennaf 2025, y bydd systemau gwirio oed yn eu lle ac yn cael eu monitro, ddylai gyfyngu’r mynediad yma. Ond, ar hyn o bryd, dyma ble mae llawer o bobl ifanc yn derbyn eu haddysg rhyw.
Atebion posib
- ACRh yn yr ysgol
- Sgyrsiau cyfoedion – clebran, cellwair, rhyfyg
- Cyfryngau cymdeithasol – postiadau wedi’u rhannu, sgyrsiau grŵp, negeseuon uniongyrchol, dilyn proffiliau
- Rhieni – sgyrsiau yn y cartref a ffiniau rhywiol
- Profiad o gam-drin rhywiol, ar-lein neu fel arall, o fewn y teulu neu eraill
- Y cyfryngau – teledu, radio, fideos cerddoriaeth
- Brodyr / chwiorydd – rhannu gwybodaeth
- Y GIG – nyrs ysgol, clinigau iechyd rhyw
- Credoau a normau diwylliannol
- Gwefannau defnyddiol – Shore, Brook
- Arbrofi gyda chyfoedion
Beth gall addysgwyr ei wneud
Pan fyddai’n siarad gyda phlant, byddant yn dweud wrthyf eu bod eisiau cyfleoedd i siarad ac i drafod beth maent yn ei feddwl ac yn ei deimlo. Mae Shore – Lucy Faithfull Foundation yn wefan wych i gyfeirio plant tuag ati. Mae ar gyfer rhywun sydd:
- Â chwestiynau am berthnasoedd iach
- Eisiau newid eu hymddygiad eu hunain
- Yn chwilio am wybodaeth ddibynadwy i’w helpu i ymateb i ymddygiad rhywun arall
Os yw plentyn wedi rhannu delwedd noeth neu rannol-noeth o’u hunain yna gallwch eu harwyddbostio tuag at Report Remove | Childline. Mae Report Remove yn helpu pobl ifanc o dan 18 oed yn y Deyrnas Unedig i adrodd yn gyfrinachol am ddelweddau neu fideos rhywiol ohonynt eu hunain a’u tynnu oddi ar y rhyngrwyd.
ON: Fel aelod staff, byddech yn parhau i adrodd ar yr wybodaeth yma i’r PDD.

Fel staff, gallwn gefnogi plant trwy herio normaleiddio unrhyw ymddygiadau amhriodol. Os yw plant yn gweld staff yn herio’r defnydd amhriodol o jôcs neu sylwadau rhywiaethol, byddant yn gwybod nad yw’n dderbyniol. Rydym eisiau atal dwysâd yr ymddygiadau rhywiaethol i fyny’r pyramid.
Fel staff, gallwn hefyd:
- Fod yn glir ac yn ffeithiol wrth siarad gyda phlant am ymddygiad rhywiol
- Osgoi cywilyddio
- Ymateb gyda chysondeb, yn enwedig wrth herio ymddygiadau amhriodol
- Peidiwch â thybio bod pobl ifanc yn deall y geiriau maent yn eu defnyddio
- Rhowch amser i blant i siarad a gwrandewch arnynt yn weithredol
- Ceisiwch beidio ymddangos neu swnio mewn embaras pan yn trafod y pwnc yma, oherwydd bydd pobl yn synhwyro hynny
- Cefnogwch gyfeillgarwch a pherthnasoedd iach